Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch am eich ateb defnyddiol iawn. Credaf mai ar 15 Mehefin, mewn gwirionedd, y cyhoeddoch y canllawiau, ac mae’r canllawiau hynny’n cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer y tymor hir ac atal problemau rhag gwaethygu neu godi yn y lle cyntaf. Mae hyn cyn eich llythyr, ond bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar 19 Mehefin, dywedodd aelod cabinet Cyngor Abertawe dros yr amgylchedd fod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio’n llwyr â’r holl ddeddfwriaeth ansawdd aer. Nawr, yn amlwg, mae dilyn canllawiau yn gymorth i bobl gydymffurfio â deddfwriaeth, felly o ystyried nad yw system fonitro Abertawe, sydd i fod i leihau llygredd aer lleol, yn weithredol o hyd, er iddi gael ei sefydlu yn 2012, a allwch ddweud bod cyngor Abertawe yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth? A yw’n bosibl fod angen i’ch canllawiau fynd ychydig ymhellach o ran eu pendantrwydd? Diolch.