Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 28 Mehefin 2017.
Rwy’n cytuno â chi, ond mae’n rhaid i mi ddweud bod angen i ni wneud mwy i fynd i’r afael ag allyriadau cerbydau mewn ardaloedd trefol, felly rwy’n croesawu mesurau sy’n helpu i leihau cysylltiad y cyhoedd â llygredd aer, gan gynnwys prosiectau seilwaith o’r math y cyfeiriwch atynt. Gwn fod ffordd ddosbarthu’r Morfa yn Abertawe i fod i gael ei chwblhau yn y dyfodol agos iawn. Cefnogwyd hynny gan Lywodraeth Cymru drwy ein cronfa trafnidiaeth leol dros y blynyddoedd diwethaf.