<p>Llygredd Afonydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:15, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o ddyletswyddau Cyfoeth Naturiol Cymru yw monitro iechyd afonydd Cymru a rhoi camau gweithredu ar waith yn erbyn y rhai sy’n eu llygru. Mae ffigurau’n dangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael bron i 6,900 o adroddiadau ynglŷn â llygredd afonydd rhwng 2013 ac 2016. Ymchwiliwyd i oddeutu 60 y cant o’r adroddiadau hyn, ond arweiniodd hynny at 41 o erlyniadau a 10 o sancsiynau sifil yn unig. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas at y diben, a pha gamau y bydd yn eu cymryd i wella’r gwaith o ddiogelu dyfroedd Cymru ac afonydd Cymru rhag llygredd? Diolch.