Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 28 Mehefin 2017.
Yn sicr, yn y flwyddyn ers i mi gael y portffolio hwn, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau o lygredd sylweddol, yn arbennig, yn ein cyrsiau dŵr, yn fwyaf nodedig yn afon Teifi yng ngorllewin Cymru a hefyd yn afon Honddu yn Sir Fynwy. Credaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas at y diben. Rwy’n disgwyl iddynt ddefnyddio eu pwerau cyfreithiol yn llawn i ymdrin â’r achosion hyn. Gwn eu bod weithiau’n teimlo’n rhwystredig fod cyn lleied yn arwain at erlyniad. Credaf fod gwaith mawr i’w wneud ar lygredd ar ffermydd. Fe fyddwch yn gwybod fod llygredd amaethyddol yn aml yn achos a dyna’r drafodaeth rwy’n ei chael gyda ffermwyr. Rwyf newydd ddechrau proses ymgynghori mewn perthynas â pharthau perygl nitradau a byddaf yn cyflwyno datganiad yn yr hydref. Fel rwy’n dweud, credaf fod gwaith mawr i’w wneud ac rydym yn ymgymryd â’r gwaith hwnnw.