Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 28 Mehefin 2017.
Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cofio’r digwyddiad a fu yn fy etholaeth i gyda Valero yn gollwng olew i Nant Pibwr. Ar y pryd, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud nifer o brofion o ran y pridd ac yn y dŵr, ac roedden nhw’n dweud eu bod nhw’n methu â chyhoeddi’r canlyniadau rhag ofn y bydden nhw eisiau defnyddio’r rheini mewn unrhyw gamau cyfreithiol y bydden nhw’n ymgymryd â nhw. A ydy’r Ysgrifennydd Cabinet felly yn gallu ein diweddaru ni a ydy’r data yna nawr ar gael i’w cyhoeddi, ac a ydy Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu pa gamau cyfreithiol y maen nhw am eu cymryd yn yr achos yma?