Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 28 Mehefin 2017.
Mae Huw Irranca-Davies yn dweud bod thema’n datblygu, ond mae’r ffocws ychydig yn wahanol. Roeddwn wrth fy modd yn mynychu dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yng nghaeau Owain Glyndŵr yng Nghaerffili ddydd Sadwrn, a mynychodd y Prif Weinidog, ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Roedd yn bleser gweld llawer o sioeau, fel Spitfire yn hedfan heibio a gorymdaith band catrodol y Cymry Brenhinol, ac roedd aelodau o Gorfflu Arfog Brenhinol y Menywod yn bresennol yn dathlu eu canmlwyddiant eleni.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i groesawu’r gefnogaeth a roddwyd i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn 2017 gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth y DU, awdurdodau lleol a nifer o grwpiau cymunedol a gwirfoddol, ac yn wir gan sawl aelod o’r cyhoedd? A yw hefyd yn cytuno bod yn rhaid inni barhau i gefnogi nid yn unig Diwrnod y Lluoedd Arfog ond hefyd y gwasanaethau y mae cyn-filwyr yn ein cymunedau yn dibynnu arnynt ar ôl gadael y lluoedd fel y gallant gael mynediad at y gwasanaethau gorau y maent yn eu haeddu?