<p>Diwrnod y Lluoedd Arfog</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:22, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, ac rwy’n talu teyrnged i’r nifer o filwyr wrth gefn a theuluoedd y lluoedd arfog a’r personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, ledled y DU a ledled byd. Dylem fod yn falch iawn o’n hanes a’n cefnogaeth iddynt. Gwn fod y Prif Weinidog hefyd wedi mynychu’r digwyddiad yng Nghaerffili gyda’r Aelod, ac rydym yn falch iawn unwaith eto o sicrhau cymorth ar gyfer hynny. Rwyf wedi cael gwybod yn ddiweddar fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn llwyddiannus gyda’u cais i gynnal Diwrnod Lluoedd Arfog cenedlaethol y DU y flwyddyn nesaf, a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfraniad o £135,000 iddynt allu cynnal y digwyddiad mawreddog hwn.