Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch i Hefin David am gadw’r ffocws ar y mater hwn y prynhawn yma. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad ‘chwifio’r faner dros ein lluoedd arfog’ ym mhencadlys Cyngor Sir Fynwy y tu allan i Frynbuga, ac roedd llawer o bobl yn bresennol. Mae’n dangos faint o Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal â phobl ledled Cymru, sydd eisiau anrhydeddu ein lluoedd arfog a chydnabod y gwaith anodd iawn y maent yn ei wneud. Rwy’n deall bod Stagecoach wedi cynnig trafnidiaeth am ddim ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog i bersonél y lluoedd arfog a gariai gerdyn adnabod ac i gyn-filwyr a wisgai fathodyn cyn-filwr. Credaf fod Stagecoach wedi llofnodi cyfamod i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Rwy’n credu bod y math hwnnw o raglen yn werth chweil. A yw’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei gefnogi ac yn bwriadu ei gefnogi eto yn y dyfodol?