Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 28 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog bob blwyddyn er mwyn ailddatgan ein gwerthfawrogiad diffuant i’r rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac i ddangos ein cefnogaeth i’r dynion a’r menywod sy’n rhoi eu bywydau mewn perygl i ddiogelu ein gwlad a’n ffordd o fyw. Roeddwn wrth fy modd pan glywais fod Llywodraeth y DU a’r DUP wedi ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth i gyfamod y lluoedd arfog. Yn yr ysbryd hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ailddatgan ymrwymiad eich Llywodraeth i’r cyfamod a sicrhau bod teuluoedd y lluoedd arfog a chyn-filwyr yn cael unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt, sydd, wedi’r cyfan, yn bris bach i’w dalu am eu haberth?