Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wrth gwrs, a’r hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod yn sicr, yng Nghymru, ar flaen y gad o ran darparu ar gyfer ein cyn-filwyr a theuluoedd y lluoedd arfog, ac mae gennym lawer o gynlluniau ar waith. Rydym yn buddsoddi £585,000 y flwyddyn yng nghynllun cyn-filwyr y GIG, gan weithio gyda chyn-filwyr yn unig i gael mynediad at wasanaethau—2,900 o atgyfeiriadau wedi’u derbyn drwy’r cynllun. Hefyd, hoffwn ofyn i’r Aelod ddefnyddio ei dylanwad yn Llywodraeth y DU efallai, oherwydd mae gennym yng Nghymru, ers mis Ebrill 2016, swm uwch o £25 yr wythnos yn cael ei ddiystyru ar gyfer cyn-filwyr sy’n derbyn pensiynau anabledd rhyfel wrth iddynt gael mynediad at bob math o ofal cymdeithasol, ac o fis Ebrill 2017 ymlaen, bydd y swm cyfan yn cael ei ddiystyru mewn perthynas â hyn. Mae hynny’n digwydd yng Nghymru, ond nid yw’n digwydd yn Lloegr eto.