Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, nodaf eich bod yn awr yn bwriadu deddfu ym maes ffioedd asiantaethau gosod tai, a chredaf fod hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu. Cafwyd cefnogaeth i hyn gan amryw o wrthbleidiau a rhai Aelodau o’ch plaid eich hun, felly rwy’n falch eich bod yn awr yn symud tuag at ddeddfu yn y maes hwn. Nawr, gwn eich bod wedi bod angen ystyried tystiolaeth o fannau eraill cyn rhoi unrhyw gamau ar waith. Roeddwn yn meddwl tybed i ble y mae eich ystyriaethau wedi eich arwain. Rwy’n gwybod bod yna broblemau posibl ynglŷn â’r ffaith, pe bai ffioedd asiantaethau gosod tai yn cael eu gwahardd, y byddai’n arwain at godi rhent yn lle hynny. Gwn fod gwaith ymchwil wedi’i wneud ar effeithiau gwneud hyn yn yr Alban, felly roeddwn yn meddwl tybed beth oedd eich barn ar y mater hwn neu unrhyw fater arall cysylltiedig.