2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 28 Mehefin 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, nodaf eich bod yn awr yn bwriadu deddfu ym maes ffioedd asiantaethau gosod tai, a chredaf fod hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu. Cafwyd cefnogaeth i hyn gan amryw o wrthbleidiau a rhai Aelodau o’ch plaid eich hun, felly rwy’n falch eich bod yn awr yn symud tuag at ddeddfu yn y maes hwn. Nawr, gwn eich bod wedi bod angen ystyried tystiolaeth o fannau eraill cyn rhoi unrhyw gamau ar waith. Roeddwn yn meddwl tybed i ble y mae eich ystyriaethau wedi eich arwain. Rwy’n gwybod bod yna broblemau posibl ynglŷn â’r ffaith, pe bai ffioedd asiantaethau gosod tai yn cael eu gwahardd, y byddai’n arwain at godi rhent yn lle hynny. Gwn fod gwaith ymchwil wedi’i wneud ar effeithiau gwneud hyn yn yr Alban, felly roeddwn yn meddwl tybed beth oedd eich barn ar y mater hwn neu unrhyw fater arall cysylltiedig.
Rwy’n falch iawn fy mod yn gallu dibynnu ar gefnogaeth Aelodau UKIP i fwrw ymlaen â’n deddfwriaeth ar ffioedd asiantaethau gosod tai, sef yr hyn y bwriadwn ei gyflwyno, fel y gwnaeth y Prif Weinidog yn glir ddoe. Yr unig faen tramgwydd oedd symudiad y gost, a byddai’n rhaid i ni fod yn argyhoeddedig na fyddai asiantau gosod tai’n symud y gost i’r rhenti. Rwy’n gwybod fod llawer o Aelodau, gan gynnwys Jenny Rathbone ar ein meinciau, wedi bod yn awyddus i fynd ar drywydd y mater hwn.
Diolch am hynny, ac rwy’n gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ac y bydd, yn y pen draw, yn effeithiol. Ond gan symud ymlaen at fater arall a gafodd ei gynnwys yn ‘Symud Cymru Ymlaen’: lleoedd meithrin. Roedd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio. Y bwriad oedd cychwyn treialu cynlluniau newydd ym mis Medi i ddarparu ar gyfer tua 10 y cant o deuluoedd cymwys. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â ble fydd y cynlluniau peilot yn digwydd ac ar ba sail y gwnaethoch eich penderfyniad i gychwyn yn yr ardaloedd penodol hynny.
Rwyf wedi cyhoeddi nifer o ddatganiadau ar yr addewid gofal plant, ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau datblygu’r rhaglen honno o fis Medi eleni ymlaen. Yn wir, ym Mlaenau Gwent, yn etholaeth fy nghyd-Aelod Alun Davies, bydd Blaenau Gwent yn ei chyfanrwydd yn cael ei hystyried fel cynllun peilot, ac felly, bydd ein plant ifanc sydd â rhieni sy’n gweithio yn cael lleoedd gofal plant am ddim. Hwn yw’r addewid gofal plant mwyaf dynamig yn y DU gyfan, ac rydym yn dechrau ei dreialu yma yng Nghymru. Byddwn yn cyfeirio’r Aelod at fy natganiad o ran yr ardaloedd lle bydd hyn yn digwydd. Fe’u dewiswyd o blith cynigion a wnaed gan awdurdodau lleol o ran pa rai a fyddai’n gallu cyflwyno’r cynllun ar hyn o bryd. Ond gadewch i mi sicrhau’r Aelod y bydd pob awdurdod ledled Cymru erbyn diwedd tymor y Llywodraeth hon yn darparu ein haddewid gofal plant yng Nghymru yn llawn.
Diolch am hynny, ac edrychaf ymlaen at weld hynny’n digwydd. Gan symud ymlaen at fater y soniasom amdano yr wythnos diwethaf, yn dilyn trychineb Tower Grenfell, nawr rwy’n gwybod eich bod wedi gwneud datganiad ar hyn i’r Siambr, felly rydym wedi trafod y materion hyn—. Un peth sydd wedi codi fel problem bosibl wrth fynd i’r afael â rheoleiddio yng Nghymru yw’r rhaniad yn y cyfrifoldebau rhyngoch chi a’ch cyd-Aelod, Lesley Griffiths, yn yr ystyr bod cyfrifoldebau Lesley Griffiths, rwy’n credu, yn cynnwys yr ochr sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu, ac rydych chi’n gyfrifol am wasanaethau tân ac achub a diogelwch tân cymunedol. Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth oedd eich barn ar hynny a sut y byddech yn mynd i’r afael ag anhawster y rhaniad hwnnw.
Gadewch i mi roi sicrwydd i’r Aelod unwaith eto: nid oes unrhyw anhawster o ran cyfrifoldeb o fewn Llywodraeth Cymru ar hyn. Fi yw’r Gweinidog arweiniol ar hyn, gan gynnwys yr ochr sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu, a’r perygl tân i unrhyw adeiladau yng Nghymru. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod gyda Llywodraeth y DU, yn ogystal â fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban ac yn Lloegr, ar hyn. Mae hwn yn fater byw iawn ac rydym o ddifrif yn ei gylch. Rwy’n gweithio’n agos iawn gydag adran Lesley Griffiths, ond fi yw’r Gweinidog arweiniol.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Diolch. Mae tri mis wedi bod ers y cyhoeddiad ynglŷn â’r carchar dynion gyda chapasiti o 1,600 ym Mhort Talbot. Ac roeddwn eisiau holi mwy ynglŷn â’r ymateb a roesoch i mi y tro diwethaf y crybwyllais hyn. Nid oeddwn yn credu eich bod yn ddigon clir a phendant pan wnaethoch ddatganiad i’r Cynulliad ar 22 Mawrth ynglŷn â lefel yr ymgysylltiad roeddech wedi’i gael gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r Gweinidog carchardai wedi cadarnhau, mewn llythyr ataf ar 31 Mai, fod eich adran wedi chwarae rhan ragweithiol yn helpu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i nodi safleoedd, ac mae hynny ychydig yn fwy na ‘chael trafodaethau’, sef y cyfan a ddywedoch ar y pryd. Ar 22 Mawrth, fe ddywedoch hefyd, a dyfynnaf, mae llawer o gwestiynau sy’n parhau heb eu hateb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Gan fod y Gweinidog carchardai wedi cadarnhau eich bod wedi cymryd rhan yn y broses cyn i’r newyddion ddod yn gyhoeddus, pam nad oes gennych fwy o atebion mewn perthynas â bwriadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder?
Rwy’n credu bod yr Aelod braidd yn orfrwdfrydig yn ei chwestiynau i mi. Roeddwn yn glir iawn wrthi: cefais un drafodaeth gyda’r Gweinidog carchardai cyn ei gyhoeddiad ar y diwrnod hwnnw. Yn wir, roedd fy nhîm, a thîm o swyddogion eraill o adran arall, yn ymgysylltu ag adran y Gweinidog carchardai o ran penderfynu a chynnig safleoedd a oedd ar gael ar draws rhanbarth de Cymru, a gwn fod yr Aelod yn glir ynglŷn â hynny hefyd.
A gaf fi ofyn felly, pam mai un sgwrs yn unig a gawsoch? Os oeddech wedi cynnig y safleoedd hynny, yn sicr byddai wedi bod yn dda i chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, fod wedi mynd ati’n rhagweithiol i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a fyddai gennych cyn y cyhoeddiad cyhoeddus hwnnw. Rwyf wedi gweld rhestr o nifer o safleoedd, a roddwyd gan eich adran, yn amlwg. A gafodd unrhyw gwestiynau eu gofyn, megis a oedd angen y carchar categori C hwn er enghraifft? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi profi mewn ymchwil nad oes angen carchar o’r maint hwn ar gyfer Cymru. Nid oes carchar ar gyfer menywod, felly beth am gael sgwrs gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas ag ehangu yn hynny o beth?
A gaf fi syniad pa sgyrsiau rydych yn eu cael, er mwyn sicrhau pobl Port Talbot eich bod yn gwneud pob ymdrech i’w gwneud yn ymwybodol o ryddhau’r tir, lle bydd y lleoliad hwnnw—gobeithio na fydd yn digwydd, ond lle byddai’r lleoliad a nodwyd gennych—a sut y cânt wybod am y broses barhaus, drwoch chi, nid Llywodraeth y DU yn unig?
Rwy’n credu mai’r hyn y mae’r Aelod yn ceisio cyfeirio ato yw’r ffaith eich bod yn ceisio datblygu dadl mai ein prosiect ni yw hwn. Nid ein prosiect ni ydyw. Ac mae’r un peth yn wir gydag unrhyw fuddsoddiad busnes arall sy’n dod i Gymru, boed yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus. Mae proses ymgysylltu’n digwydd mewn perthynas â thir sydd ar gael, ac mae hwnnw’n waith sy’n digwydd yn ddyddiol, yn wythnosol yma.
Rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, yn yr ystyr y bydd yn rhaid i’n proses ymgysylltu, pan fydd y penderfyniad wedi’i wneud gan Lywodraeth y DU, ddechrau ar y pwynt hwnnw, mewn perthynas â’r gallu i wneud yr hyn y credwn sy’n briodol i Gymru. Rwyf wedi cychwyn y drafodaeth honno eisoes, ond ni fyddai’n deg dweud bod y penderfyniad i greu safle carchar yma yng Nghymru yn un a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Cais sydd wedi dod gan Lywodraeth y DU yw hwn.
Ond byddai wedi bod o fewn eich gallu i ddyrannu’r tir hwnnw ar gyfer rhywbeth arall, cyn cael carchar fel sydd gennym yn awr. Felly, mae hwnnw’n rhywbeth y byddwn yn dadlau yn ei gylch eto yn y dyfodol.
Rwyf eisiau un cwestiwn am ddiogelwch tân. Er eich bod wedi dweud yr wythnos diwethaf nad oedd unrhyw adeiladau â’r math penodol o gladin a gafodd ei ddefnyddio yn nhŵr Grenfell, adroddodd y BBC ddoe fod profion yn cael eu cynnal ar dyrau o fflatiau am ddeunydd cyfansawdd alwminiwm tebyg, cladin, fel ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, er enghraifft. Hoffwn i chi egluro nifer o bethau, os gallech, oherwydd nid yw datganiadau Llywodraeth Cymru wedi bod mor glir ag y dylent fod yn ystod y dyddiau diwethaf.
Er enghraifft, fe awgrymoch i ddechrau fod y profion yn wirfoddol. Fe ddywedoch yr wythnos diwethaf y byddech yn annog awdurdodau lleol sydd am gynnal profion ar gladin i wneud hynny. A ydych yn credu y byddai datganiad cryfach o’r cychwyn cyntaf wedi bod yn well? Nid oes llawer o eglurhad wedi bod ers hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn dweud wrth yr awdurdodau lleol sy’n amau bod deunydd cyfansawdd alwminiwm wedi cael ei ddefnyddio mewn tyrau o fflatiau fod angen iddynt gynnal profion ar eu hadeiladau. Ond ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru hefyd nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i orfodi unrhyw awdurdod lleol i gynnal profion ar eu hadeiladau, ond ychwanegodd ei bod yn eu hannog i wneud hynny. Rwy’n gweld amryw o eiriau—’angen’, ‘annog’, ‘gorfodi’. A gaf fi rywfaint o eglurder ar yr hyn sy’n cael ei wneud mewn gwirionedd, a’r hyn y mae gennych bŵer i’w wneud, fel y gallwn dawelu ein meddyliau ein bod yn gwneud ein gorau glas mewn perthynas ag adeiladau Cymru?
Iawn. Gadewch i ni gymryd y ddau bwynt y mae’r Aelod yn eu codi. Yn gyntaf oll, mae’r Aelod yn anghywir yn honni bod gennyf opsiwn o ran y mater tir parthed y carchar. Dywedodd yr Aelod y byddem yn trafod hyn yn y dyfodol, ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny.
Yr ail bwynt, sy’n un pwysig iawn o ran diogelwch tân, yw nad oes gennyf bwerau, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall ac ar ôl derbyn cyngor, i orfodi awdurdodau neu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gynnal profion, oherwydd eu bod yn endid ynddynt eu hunain. Ond yr hyn rwyf wedi’i wneud yw cysylltu â phob un o’r rhain. Nid wyf yn credu ei fod o unrhyw fudd i’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu’r awdurdodau lleol i beidio â chynnal profion lle maent yn gweld neu’n canfod risg. Ac nid wyf wedi cael gwybod am unrhyw fan lle na fyddent yn gwneud hynny. Ac mae’r drafodaeth honno’n parhau.
Y cyngor a gefais yr wythnos diwethaf—ac mae’n parhau i fod yn wir heddiw—yw nad yw’r cynnyrch deunydd cyfansawdd alwminiwm a ddefnyddiwyd yn nhrychineb tân Grenfell wedi ei osod yn unrhyw un o’n hadeiladau yma yng Nghymru, ond mae yna baneli deunydd cyfansawdd alwminiwm, ac rwyf wedi cyfarwyddo awdurdodau i gynnal profion ar y rheiny hefyd ar sail diogelwch tân. Rwy’n chwilio am gyngor gan fy uwch ymgynghorydd tân a phanel o unigolion a all roi cyngor proffesiynol i ni ar ddiogelwch adeiladau. Ond rwy’n credu ein bod yn dysgu mwy bob dydd, a chefais sgwrs hir gyda gweinyddiaeth y DU ddoe am gynhyrchion deunydd cyfansawdd alwminiwm, am inswleiddio, ac am ddiogelwch unedau cyfan. A dyna beth sy’n rhaid i ni ei ystyried yma: gwneud yn siŵr mai fy safbwynt cyntaf a phennaf, fel y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb, yw diogelwch y trigolion yn yr adeiladau hyn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Yn rhifyn yr haf o gylchlythyr Sefydliad Bevan ‘Exchange’, mewn erthygl o’r enw ‘Learning to Love Local’, mae cyfarwyddwr Sefydliad Bevan yn dweud bod Papur Gwyn mis Ionawr 2017, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, yn canolbwyntio ar gydweithio unwaith eto, ac yna mae hi’n dweud bod gofyn i’r cyhoedd, yn y bôn, gytuno i newidiadau mawr yn y modd y darperir gwasanaethau lleol heb wybod sut y gallant leisio eu barn, sy’n amlwg yn ymwneud mwy â’ch portffolio chi.
Mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn gweithio gyda rhwydwaith Talwrn o sefydliadau trydydd sector yng Nghymru a changen gymunedol undeb Unite, i nodi’r ffactorau allweddol wrth ddatblygu’r cadernid cymunedol ar lefel leol a fyddai’n mynd i’r afael â’r mater a godwyd gan Sefydliad Bevan, ac maent yn datgan eu bod eisoes wedi ymgysylltu â Gweinidogion a gweision sifil yn Llywodraeth Cymru ar y materion hyn, sy’n cynnwys edrych ar fodel gwasanaethau cyhoeddus Rhondda Cynon Taf, gan weithio gyda’r trydydd sector i ddatblygu dull llesiant cymunedol lleol, gan ddefnyddio datblygiad cymunedol sy’n seiliedig ar asedau—dyna yw cryfderau pobl. Ac maent yn mynd ymlaen i ddweud bod sefydliadau cymunedol annibynnol mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol, o ofal cymdeithasol i gymorth i deuluoedd a chyflogadwyedd, a chynnal y darpariaethau hyn gan eraill. Tybed a allech ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch gyda’r sefydliad hwn a’u partneriaid, a pha gamau, os o gwbl, a allai ddeillio o hynny.
Nid wyf wedi cael sgwrs gyda’r sefydliadau penodol hynny, ond fe edrychaf i weld a yw fy nhîm wedi gwneud hynny. O ran y pwynt cyntaf ar ad-drefnu llywodraeth leol, rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yw y bydd proses ymgynghori’n digwydd, dan arweiniad Mark Drakeford, nid fi, ond rwy’n cael sgyrsiau gyda Mark am gryfder cymunedol a sut beth yw hwnnw. Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn ynglŷn â’r ffaith fod yn rhaid i angen lleol a dylanwad lleol fod â phwrpas wrth ddatblygu polisi a darparu gwasanaethau. Rydym yn gweithio mewn amgylchedd ariannol gwahanol iawn fel y mae pethau, ac felly, byddwn yn annog sefydliadau trydydd sector, neu sefydliadau lleol, i ymgysylltu â’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac un enghraifft dda a nododd yr Aelod oedd un Rhondda Cynon Taf, bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Rhondda Cynon Taf. Mae’n rhywbeth rwy’n ymwneud yn agos iawn ag ef, mewn perthynas â darparu parth plant yn yr ardal benodol honno. Ac maent yn cael hynny fel rhan o’u hasesiad llesiant.
Diolch. Rwy’n credu mai’r neges allweddol o’r prosiect hwnnw oedd yr angen i sefydliadau trydydd sector annibynnol fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a darparu gyda’r sector statudol—mabwysiadu modelau na chafodd eu cyflwyno’n wreiddiol mewn sefyllfa o gyfyngu ar y gyllideb neu galedi neu beth bynnag y dymunwch ei alw; cawsant eu cyflwyno oherwydd eu bod yn gwneud bywyd yn well.
Un o’r sefydliadau, er enghraifft, sy’n gweithio mewn cymunedau gyda phobl ifanc i ddatgloi’r asedau hynny a’r cryfderau hynny yw ScoutsCymru. Cynaliasent nifer o werthusiadau annibynnol ac asesiadau annibynnol yn 2011, a gwelwyd bod 89 y cant wedi nodi bod cymryd rhan gyda’r Sgowtiaid wedi’u helpu i feithrin sgiliau allweddol, gan gynnwys sgiliau cymdeithasol, sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau arweinyddiaeth. Mae adroddiad mwy diweddar ar gyflogadwyedd pobl ifanc yn y Sgowtiaid wedi canfod bod hyn wedi’u helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y gwaith ac wedi helpu eu cyflogadwyedd yn y dyfodol. Eleni, cyhoeddodd Prifysgol Caeredin ganlyniadau astudiaeth o lesiant meddyliol, gan ddod o hyd i effaith gadarnhaol ar y rhai a gymerodd ran yn y Sgowtiaid neu’r Geidiaid drwy gydol eu bywydau.
Mynegwyd pryderon gan ScoutsCymru mewn perthynas â Sir y Fflint—ac nid wyf yn pigo ar Sir y Fflint, ond maent yn dweud wrthyf mai hon yw’r unig sir hyd yma sydd wedi gwneud hyn—o ran cael gwared ar ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn ar gyfer grwpiau Sgowtiaid a’r effaith y bydd hynny’n ei chael, yn enwedig ar bobl ifanc o gefndiroedd tlotach. Maent hefyd wedi cael eu rhwystro rhag cael mynediad at y gronfa galedi, lle maent yn dweud bod y gwaith y maent yn ei wneud yn darparu asedau i’r gymuned mewn gwirionedd ac yn helpu’r awdurdod lleol i wneud mwy gyda’r adnoddau sydd ar gael. Er nad ydych eisiau sôn yn benodol am Sir y Fflint o bosibl, pa gamau y gallwch eu cymryd i ymgysylltu ag awdurdodau lleol i gydnabod bod prosiectau fel hyn yn rhan o wneud pethau’n well mewn gwirionedd, yn hytrach na chost y gellid ei diystyru’n hawdd?
Wrth gwrs, ac rwy’n credu bod cwpl o bwyntiau yno o ran annibyniaeth sefydliadau. Rwyf fi a’r Aelod yn cyfarfod â llawer o sefydliadau annibynnol sy’n gwneud gwaith gwych o ddydd i ddydd ym mhob un o’n cymunedau, ond ni allwn ariannu pob un ohonynt. Ond mae mynediad at brosiectau a mynediad at ddylanwad yn rhywbeth y byddwn yn ei rannu gyda’r Aelod o ran datblygu strategaethau llesiant ar gyfer awdurdodau lleol. Mae’n syniad da ac mae’r Aelod yn cyfeirio at ScoutsCymru a’r Geidiaid, sydd ill dau’n cael effaith gadarnhaol yn gyffredinol ar lesiant meddyliol pobl ifanc a’u hiechyd. Rwy’n cefnogi hynny.
Gyda golwg ar y cwestiwn penodol iawn, a chan roi Sir y Fflint o’r neilltu, rwy’n gyfarwydd â’r mater y mae’r Aelod yn ei godi ac rwy’n credu, i un o’r grwpiau Sgowtiaid sydd ynghlwm wrth hynny, mai’r gost go iawn—ac er fy mod yn cydnabod bod yr Aelod yn sôn am egwyddor gyffredinol yn ymwneud â buddsoddi—y gost go iawn i’r grŵp Sgowtiaid mewn gwirionedd yw £1 yr wythnos o ran y cynnydd yn eu gwerth ardrethol neu gost ardrethi. Rwy’n credu ei fod oddeutu’r ffigur hwnnw. Er gwaethaf hynny, rwy’n cydnabod bod yn rhaid ystyried gwerth y Sgowtiaid a sefydliadau eraill o safbwynt setliad ariannol sy’n creu heriau mawr i awdurdodau lleol. Ond rwy’n gwerthfawrogi, ac rwy’n credu eu bod hwythau hefyd, y cyfraniad y maent yn ei wneud i’n cymunedau.
Yn olaf, felly, yng nghyd-destun helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i ddeall sut y gall hyn wella bywydau, mae’n ymwneud ag ymyrraeth gynnar ac atal ac arbed arian i’r gwasanaethau statudol a ddarperir ganddynt, fel ei fod yn rhan o’r agenda honno mewn gwirionedd. Efallai eich bod yn ymwybodol, ac os nad ydych, gobeithio y byddwch yn awr, y bydd cynhadledd trydydd sector yn cael ei chynnal ar 7 Medi yn Sir y Fflint, fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru, o’r enw ‘Cydgynhyrchu ar Waith’ i edrych ar egwyddorion cydgynhyrchu, ymyrraeth gynnar, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, cryfhau grym y trydydd sector ac adeiladu cymunedau cryf. Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol ohono—gofynnais am wahoddiad i chi—ond os nad ydych, a’ch bod yn rhydd, a wnewch chi ystyried mynychu?
Wrth gwrs, rwy’n gwybod am y digwyddiad hwnnw, a byddaf yn ystyried hynny ymhellach. Fel y bydd yr Aelod yn deall, mae fy nyddiadur yn gallu bod braidd yn brysur ar adegau, ond os gallaf ddod draw, fe wnaf hynny.
Rwy’n sicr o’r un farn â’r Aelod o ran ymyrraeth gynnar ac atal, ond mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ar hyn, oherwydd os ydych yn dod atom a dweud, ‘Edrychwch, mae’r amseroedd aros yn rhai o’n hysbytai yn cynyddu ac mae pwysau yno’, yna bydd yn rhaid i fy nghyd-Aelodau ymateb i hynny oherwydd yr ewyllys gwleidyddol sy’n gysylltiedig â hynny. Ond mewn gwirionedd, os ydym yn buddsoddi’n glyfar yn ein pobl ifanc ymlaen llaw, a dyna beth rwy’n ceisio ei wneud yn ddyddiol fel Gweinidog plant, gallwn atal rhywfaint o’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys a’r afiechydon mwy hirdymor mewn gwirionedd, ond mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd; ni allwn fod yn gritigol ar y ddau ben. Mae hyn yn trawsnewid cymorth i deuluoedd ac unigolion, ac rwy’n gobeithio y gall yr Aelod gytuno a’n cefnogi gyda hynny.