Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch am hynny, ac rwy’n gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ac y bydd, yn y pen draw, yn effeithiol. Ond gan symud ymlaen at fater arall a gafodd ei gynnwys yn ‘Symud Cymru Ymlaen’: lleoedd meithrin. Roedd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio. Y bwriad oedd cychwyn treialu cynlluniau newydd ym mis Medi i ddarparu ar gyfer tua 10 y cant o deuluoedd cymwys. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â ble fydd y cynlluniau peilot yn digwydd ac ar ba sail y gwnaethoch eich penderfyniad i gychwyn yn yr ardaloedd penodol hynny.