Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 28 Mehefin 2017.
Rwy’n credu bod yr Aelod braidd yn orfrwdfrydig yn ei chwestiynau i mi. Roeddwn yn glir iawn wrthi: cefais un drafodaeth gyda’r Gweinidog carchardai cyn ei gyhoeddiad ar y diwrnod hwnnw. Yn wir, roedd fy nhîm, a thîm o swyddogion eraill o adran arall, yn ymgysylltu ag adran y Gweinidog carchardai o ran penderfynu a chynnig safleoedd a oedd ar gael ar draws rhanbarth de Cymru, a gwn fod yr Aelod yn glir ynglŷn â hynny hefyd.