Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 28 Mehefin 2017.
Rwy’n credu mai’r hyn y mae’r Aelod yn ceisio cyfeirio ato yw’r ffaith eich bod yn ceisio datblygu dadl mai ein prosiect ni yw hwn. Nid ein prosiect ni ydyw. Ac mae’r un peth yn wir gydag unrhyw fuddsoddiad busnes arall sy’n dod i Gymru, boed yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus. Mae proses ymgysylltu’n digwydd mewn perthynas â thir sydd ar gael, ac mae hwnnw’n waith sy’n digwydd yn ddyddiol, yn wythnosol yma.
Rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, yn yr ystyr y bydd yn rhaid i’n proses ymgysylltu, pan fydd y penderfyniad wedi’i wneud gan Lywodraeth y DU, ddechrau ar y pwynt hwnnw, mewn perthynas â’r gallu i wneud yr hyn y credwn sy’n briodol i Gymru. Rwyf wedi cychwyn y drafodaeth honno eisoes, ond ni fyddai’n deg dweud bod y penderfyniad i greu safle carchar yma yng Nghymru yn un a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Cais sydd wedi dod gan Lywodraeth y DU yw hwn.