Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 28 Mehefin 2017.
Yn olaf, felly, yng nghyd-destun helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i ddeall sut y gall hyn wella bywydau, mae’n ymwneud ag ymyrraeth gynnar ac atal ac arbed arian i’r gwasanaethau statudol a ddarperir ganddynt, fel ei fod yn rhan o’r agenda honno mewn gwirionedd. Efallai eich bod yn ymwybodol, ac os nad ydych, gobeithio y byddwch yn awr, y bydd cynhadledd trydydd sector yn cael ei chynnal ar 7 Medi yn Sir y Fflint, fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru, o’r enw ‘Cydgynhyrchu ar Waith’ i edrych ar egwyddorion cydgynhyrchu, ymyrraeth gynnar, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, cryfhau grym y trydydd sector ac adeiladu cymunedau cryf. Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol ohono—gofynnais am wahoddiad i chi—ond os nad ydych, a’ch bod yn rhydd, a wnewch chi ystyried mynychu?