Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 28 Mehefin 2017.
Diolch. Gofynnais gwestiynau am hyn i chi ychydig wythnosau yn ôl ac roedd hynny cyn yr ymosodiad terfysgol ar Fwslimiaid ym mosg Finsbury Park gan ddyn Prydeinig a oedd yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n dangos bod angen i ni fabwysiadu agwedd wahanol tuag at geisio mynd i’r afael â’r materion hyn. Nid yw’n ymwneud yn unig â disgwyl i gymunedau lleiafrifoedd ethnig edrych ar eu harferion eu hunain a sut y maent yn gweithredu; mae’n ymwneud â sut y gall pawb ohonom chwarae rhan yn ysgogi cydlyniant cymunedol. Felly, rwy’n ceisio deall, ers yr ymosodiad hwnnw, beth rydych wedi bod yn ei wneud i geisio sicrhau ein bod yn gweithio’n flaengar gyda’n gilydd yma yng Nghymru, nad oes gennym bobl o Gymru yn cyflawni’r ymosodiadau hyn, a nodi, lle maent yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein o’r natur hon, ein bod yn gallu mynd i’r afael â’r mater penodol hwn?