Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wrth gwrs, ac rwy’n gresynu’n fawr fod y person hwn yn dod o Gaerdydd ac wedi cyflawni ymosodiad mor erchyll. A gaf fi ddweud nad yw hwn yn sylweddoliad newydd i ni yng Nghymru? Rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith gyda’n cymunedau, ac roedd yr un person hwnnw’n un o 3 miliwn o bobl sy’n byw yng Nghymru. Rwyf wedi cyfarfod ag uwch dîm yr heddlu, ac rwyf wedi cyfarfod â’r fforwm ffydd yr wythnos hon yn ogystal, i geisio deall sut y mae angen i ni ddefnyddio adnoddau er mwyn creu cymdeithas fwy goddefgar a chydlynol. Efallai ein bod wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar grwpiau penodol iawn o bobl pan fo angen i ni ehangu ar hynny mewn gwirionedd, ynglŷn â derbynioldeb, ac mae hwnnw’n rhywbeth rwy’n chwilio am gyngor pellach arno gan y tîm hwnnw o bobl.