Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 28 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod bod llawer iawn o ymgysylltu’n digwydd gyda chymunedau ffydd yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, a gwn fod hwnnw’n waith a gaiff ei werthfawrogi’n fawr gan gymunedau ffydd, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig fod cyrff cynrychioliadol, pa un a ydynt yn gyrff Cristnogol neu Fwslimaidd, yn y fforwm cymunedau ffydd hwnnw yn cynrychioli’r llu o leisiau ar ran eu cymunedau, oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod bod yna farnau gwahanol, gwahanol enwadau ac yn y blaen, ac nid wyf yn hyderus, mewn gwirionedd, bod y rheiny’n cael eu cynrychioli o amgylch y bwrdd bob amser. Rwy’n meddwl tybed pa waith rydych yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cynnwys y crefyddau y maent yn eu cynrychioli.