<p>Cymunedau yn Gyntaf</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:48, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Gan symud o’r cyffredinol i’r penodol, gwn fod y fforwm ym Mhenparcau yn edrych ymlaen at groesawu’r Gweinidog, a fydd yn ymweld ym mis Medi rwy’n credu, ac os bydd yn edrych o amgylch yr adeilad newydd y tu allan, bydd yn gweld—. Yn gyntaf oll, bydd yn gweld lle rwy’n byw, ond wedyn, yn bwysicach, bydd yn gweld lle y mae pobl wedi byw ym Mhenparcau ers o leiaf 3,000 o flynyddoedd, sef caer Pen Dinas, sy’n un o’r caerau mwyaf arwyddocaol yng nghanolbarth Cymru, ac atyniad i dwristiaid ar gyfer Aberystwyth a’r ardal gyfan nad yw’n cael ei ddefnyddio ddigon, mae’n rhaid dweud.

Mae diddordeb mawr gan y fforwm yno mewn datblygu syniadau lle dônt yn rhai o geidwaid y gaer honno, yn yr ystyr fod hynny’n dod â’r gymuned at ei gilydd, mae’n cynyddu balchder cymunedol, mae’n adrodd hanes y gymuned sydd yno, mae’n cynnwys pobl ifanc, mae’n cynnwys potensial o fanteision awyr agored, ac wrth gwrs, gallai ddatblygu i fod yn ffordd o ddenu twristiaid ac ymwelwyr i’r ardal. Felly, o ran treftadaeth a’r elfen benodol hon o gydlyniant cymunedol nad yw’n cael ei gwerthfawrogi a’i defnyddio’n ddigonol efallai, pa drafodaethau y gall eu cael gyda Ken Skates cyn ei ymweliad ym mis Medi ynglŷn â sut y gallwn ddod â’r gymuned ynghyd ym Mhenparcau a chydweithio gyda’r cyrff statudol a’r gymuned leol er mwyn gwneud y gorau o un o’r asedau naturiol gorau sydd gennym?