Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 28 Mehefin 2017.
Yn wir, ac rwy’n gyfarwydd iawn â’r ardal honno. Nid hwn fyddai fy ymweliad cyntaf â Phenparcau, yn wir. Byddwn yn gofyn i’r Aelod gael sgwrs gyda Hannah Blythyn sydd hefyd yn awyddus iawn i ddatblygu strwythurau. Mae castell y Fflint mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf yng ngogledd Cymru—unwaith eto, pobl yn cymryd rhan yn y sector hwnnw o’r gymuned, ac yn ymgorffori parch a chyfleoedd yn y meysydd hynny. Byddaf yn siarad â Ken Skates, wrth gwrs, cyn fy ymweliad, ar y sail eich bod wedi dweud wrthyf mai dyna y gallai’r trafodaethau arwain ato. [Chwerthin.] Rwyf wedi fy nghalonogi gan agwedd gadarnhaol yr Aelod, ond, yn bwysicach, rwyf wedi fy nghalonogi gan drigolion ac aelodau Penparcau, oherwydd eu bod wedi gweld cyfle, ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, i ddatblygu cyfle ar gyfer y dyfodol.