<p>Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:57, 28 Mehefin 2017

Mae wedi bod yn gyffrous gweld y gwahaniaeth y mae arian Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi gallu gwneud i dref Caergybi, lle mae yna nifer o brosiectau wedi digwydd neu ar y gweill. Ond, wrth gwrs, nid ydy’r problemau economaidd yn cael eu cyfyngu i’r ardaloedd sydd wedi cael eu neilltuo ar gyfer yr arian yma hyd yma. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y bydd ardaloedd eraill yn gallu manteisio ar gyfleon fel hyn yn y dyfodol agos? Rydw i’n cynnwys ardaloedd gwledig, sydd yn dioddef o’r un problemau cymdeithasol ac economaidd, ac yn benodol, yn fy etholaeth i, Amlwch, sydd wedi dioddef gwasgfa economaidd a chymdeithasol ers cenedlaethau erbyn hyn. Pa bryd gawn ni yr un cyfleon â’r rheini sydd wedi cael eu mwynhau yng Nghaergybi?