Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wrth gwrs, mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater fod yna lawer o ardaloedd ledled Cymru sydd angen mewnbwn adfywio o ran cyllid. Ond yr hyn rwy’n ofalus i beidio â’i wneud yw taenu’r jam yn rhy denau fel bod pawb yn cael ychydig bach, ond mewn gwirionedd nid yw’n cael cymaint o effaith ag y dylai. Rwyf eisiau i hynny gael ei benderfynu’n lleol, felly awdurdodau lleol sydd â’r penderfyniadau hynny. Wrth gwrs, o ran y ceisiadau, pan gânt eu cyflwyno, os mai cynllun gwledig fydd yr awdurdod lleol yn dymuno ei wneud yn flaenoriaeth, boed hynny fel y bo, ond rwy’n gwneud yn siŵr fod y buddsoddiad ariannol rydym yn ei wneud yn cael yr effaith fwyaf.