Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 28 Mehefin 2017.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed eleni, ac fel pob blwyddyn, fe welwn ni gystadleuwyr o ar draws y byd yn dod i ganu, i ddawnsio, a mwynhau gogoniant Llangollen a dyffryn Dyfrdwy. Fe gynhaliwyd yr eisteddfod ryngwladol gyntaf ym Mehefin 1947, ac ar ôl erchyllterau’r ail ryfel byd, roedd yna weledigaeth y gallai cerddoriaeth leddfu rhywfaint ar boen rhyfel, ac y gellid defnyddio cerddoriaeth i hyrwyddo heddwch.
Roedd yr eisteddfod gyntaf honno yn llwyddiant ysgubol, a hynny yn sgil y ffaith i’r trigolion lleol gyfrannu dros £1,000 o’u harian eu hunain—yn gyfwerth â rhyw £35,000 heddiw. Ac mae’n parhau i fod yn ddibynnol ar waith caled nifer fawr o wirfoddolwyr, a diolch i’r rheini i gyd, wrth gwrs, am eu holl waith. Mae dros 300,000 o gystadleuwyr, o dros 100 o wledydd gwahanol, wedi dod i gystadlu ar lwyfan yr ŵyl dros y blynyddoedd, gyda degau o filoedd yn ymweld bob blwyddyn. Ac mae’r ŵyl yn parhau i hyrwyddo heddwch byd-eang, gyda phlant lleol yn cyflwyno’r neges heddwch yn flynyddol.
Mae wedi croesawu rhai o enwau cerddorol mwyaf y byd. Rydym ni’n gwybod am berthynas Luciano Pavarotti â’r ŵyl, wrth gwrs, a’r ymweliad efo’i gôr o Modena ym 1955 a’i ysbrydolodd e i droi yn broffesiynol. Eleni, mae’r ŵyl yn croesawu Bryn Terfel, yn ogystal â’r canwr jazz, ‘soul’ a ‘gospel’, Gregory Porter.
Yn y dyddiau yma o anghydfod, a gwrthdaro rhyngwladol cynyddol, mewn oes lle mae waliau yn cael eu codi, a ffiniau yn cael eu creu rhwng cenhedloedd, gadewch inni ddathlu’r modd y mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi estyn ein breichiau ni fel Cymry allan i weddill y byd. Mae ei neges oesol o heddwch, goddefgarwch a brawdgarwch rhyngwladol yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd e 70 mlynedd yn ôl.