– Senedd Cymru am 3:30 pm ar 28 Mehefin 2017.
Y datganiadau 90 eiliad nesaf. Vikki Howells.
Diolch, Llywydd. Heddiw, rwyf am drafod bywyd a llwyddiannau Dr Shah Imtiaz. Daeth Dr Imtiaz i amlygrwydd yn 1988 pan gafodd ei ethol yn faer cyngor bwrdeistref Cwm Cynon, gan ddod yn faer Asiaidd cyntaf Cymru, a ddisgrifiodd fel moment falchaf ei fywyd.
Ond roedd Dr Imtiaz wedi bod yn ganolog i’r gymuned ers iddo gyrraedd Aberdâr yn 1970 i fod yn feddyg teulu. Fel y dywedodd y Cynghorydd Mike Forey, ei gydweithiwr ward am 19 mlynedd,, gwnaeth Dr Imtiaz gyfraniad sylweddol i fywyd gwleidyddol Cwm Cynon, ac i Aberdâr yn arbennig. Cynrychiolodd y dref ar gynghorau cwm Cynon a Rhondda Cynon Taf am 35 mlynedd, ond roedd ei actifiaeth angerddol yn ymestyn y tu hwnt i swyddi bwrdeistrefol.
Roedd Dr Imtiaz, fel y byddai disgwyl gan feddyg teulu lleol efallai, yn cymryd rhan weithredol yng ngrŵp gweithredu Ysbyty Aberdâr, ac ymgyrchodd yn erbyn y llygredd a achoswyd gan y gwaith Phurnacite yn Abercwmboi. Gan ddangos ei empathi gyda’r gymuned a wnaethai’n gartref, cefnogodd y glowyr yn ystod y 1980au a’r 1990au. Roedd Dr Imtiaz yn cefnogi datganoli’n frwd, roedd yn gadeirydd CND Cwm Cynon, a helpodd i osod y polyn heddwch o flaen llyfrgell Aberdâr. Ni fyddai byth yn cilio rhag ei gredoau, gan ddatgan ei fod yn ‘sosialydd drwy gydwybod’.
Yn anffodus, bu farw Dr Imtiaz ar 19 Mehefin. Rydym yn meddwl am ei blant, ond bydd y cof amdano a’i etifeddiaeth yn sicr o barhau.
Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o fynychu gwobrau Womenspire Chwarae Teg, lle y cafodd gwaith menywod ar draws Cymru ei ddathlu a’i gydnabod, gyda gwobrau mewn categorïau yn amrywio o weithredu cymunedol i fusnes, diwydiant, a’r celfyddydau. Ac rwy’n falch iawn fod Sarah Draper, rheolwr gyfarwyddwr ffitrwydd Inspire Fitness ym Merthyr, wedi ennill gwobr llwyddiant ym myd y campau ar gyfer y flwyddyn.
Gyda chymorth arian grant, lansiodd Sarah grŵp o’r enw Merthyr Girls Can yn 2016, gan ddod â menywod anodd eu cyrraedd fel arall, mewn perthynas ag iechyd a lles, at ei gilydd a’u dysgu ynglŷn â ffitrwydd. Mae Sarah yn dysgu’r menywod hyn a’u teuluoedd ei bod yn bwysig mynd allan a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, boed yn gerdded, rhedeg, neu ddim ond cicio pêl. Trwy Merthyr Girls Can, maent yn cael hyfforddiant hunan-barch, cyngor maeth, hyfforddiant personol un i un, cymorth hyfforddi, rhaglen hyfforddi 20 wythnos, a nifer ddigyfyngiad o sesiynau ymarfer corff. Oherwydd ei lwyddiant ysgubol, ffurfiwyd tri grŵp Merthyr Girls Can arall, gyda chanlyniadau aruthrol. A dechreuodd Merthyr Girls Can 4 ar 1 Ebrill eleni.
Trwy waith caled, cefnogaeth ac anogaeth Sarah, mae llawer o fenywod Merthyr wedi cyflawni pethau rhyfeddol, gan gymryd rhan mewn cystadlaethau triathlon, marathon, ennill cymwysterau a chyflogaeth mewn chwaraeon, ac ysbrydoli eraill i ddod yn ffit. Mae cymeradwyaeth ddiddiwedd i waith Sarah, ond hoffwn ddiolch i Sarah, a’r rhai fel hi, sy’n rhoi o’u hamser yn ddiflino i helpu eraill. Hebddynt, byddai ein nod o wneud Cymru yn genedl iachach gymaint yn anos i’w chyflawni.
Llyr Gruffydd.
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed eleni, ac fel pob blwyddyn, fe welwn ni gystadleuwyr o ar draws y byd yn dod i ganu, i ddawnsio, a mwynhau gogoniant Llangollen a dyffryn Dyfrdwy. Fe gynhaliwyd yr eisteddfod ryngwladol gyntaf ym Mehefin 1947, ac ar ôl erchyllterau’r ail ryfel byd, roedd yna weledigaeth y gallai cerddoriaeth leddfu rhywfaint ar boen rhyfel, ac y gellid defnyddio cerddoriaeth i hyrwyddo heddwch.
Roedd yr eisteddfod gyntaf honno yn llwyddiant ysgubol, a hynny yn sgil y ffaith i’r trigolion lleol gyfrannu dros £1,000 o’u harian eu hunain—yn gyfwerth â rhyw £35,000 heddiw. Ac mae’n parhau i fod yn ddibynnol ar waith caled nifer fawr o wirfoddolwyr, a diolch i’r rheini i gyd, wrth gwrs, am eu holl waith. Mae dros 300,000 o gystadleuwyr, o dros 100 o wledydd gwahanol, wedi dod i gystadlu ar lwyfan yr ŵyl dros y blynyddoedd, gyda degau o filoedd yn ymweld bob blwyddyn. Ac mae’r ŵyl yn parhau i hyrwyddo heddwch byd-eang, gyda phlant lleol yn cyflwyno’r neges heddwch yn flynyddol.
Mae wedi croesawu rhai o enwau cerddorol mwyaf y byd. Rydym ni’n gwybod am berthynas Luciano Pavarotti â’r ŵyl, wrth gwrs, a’r ymweliad efo’i gôr o Modena ym 1955 a’i ysbrydolodd e i droi yn broffesiynol. Eleni, mae’r ŵyl yn croesawu Bryn Terfel, yn ogystal â’r canwr jazz, ‘soul’ a ‘gospel’, Gregory Porter.
Yn y dyddiau yma o anghydfod, a gwrthdaro rhyngwladol cynyddol, mewn oes lle mae waliau yn cael eu codi, a ffiniau yn cael eu creu rhwng cenhedloedd, gadewch inni ddathlu’r modd y mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi estyn ein breichiau ni fel Cymry allan i weddill y byd. Mae ei neges oesol o heddwch, goddefgarwch a brawdgarwch rhyngwladol yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd e 70 mlynedd yn ôl.