Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 28 Mehefin 2017.
Yr wythnos diwethaf, cynhaliais a siaradais yn lansiad y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni. Roeddwn yn aelod o’r grŵp trawsbleidiol golwg ar ynni yn ystod yr ail Gynulliad a chadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd yn ystod trydydd a phedwerydd tymor y Cynulliad. Bu inni weithio gyda’n gilydd i sefydlu’r Gynghrair Tlodi Tanwydd ac i lansio’r siarter tlodi tanwydd yn 2009, ac i sicrhau strategaeth tlodi tanwydd ddiwygiedig Llywodraeth Cymru yn 2010. Gan weithio gydag aelodau’r Gynghrair Tlodi Tanwydd, bydd y grŵp trawsbleidiol newydd yn ymgyrchu i roi tlodi tanwydd wrth wraidd camau i drechu tlodi, gyda phwyslais cryf ar sicrhau bod pob sector yn ysgwyddo cyfrifoldeb gyda’i gilydd. Mae National Energy Action Cymru yn awyddus i ymgysylltu ag Aelodau’r Cynulliad yn eu gwaith ar dlodi tanwydd a thrwy’r grŵp trawsbleidiol newydd ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, ac rwy’n annog unrhyw Aelodau nad ydynt wedi cwblhau eu harolwg byr a anfonwyd atoch drwy e-bost, i wneud hynny.
Yn 2012, amcangyfrifwyd bod bron i 30 y cant o gartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd, ac yn gwario 10 y cant neu fwy o incwm y cartref ar danwydd er mwyn cynnal digon o wres i ddiogelu cysur ac iechyd. Yn sgil buddsoddi mewn gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â newidiadau yn incwm aelwydydd a phrisiau tanwydd, disgynnodd i 23 y cant yn 2016. Mae hynny’n dal i fod yn 291,000 o aelwydydd yng Nghymru, gan gynnwys 43,000 mewn tlodi tanwydd difrifol. Fel y dywedodd Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree wrth Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad ddwy flynedd yn ôl, dylai tlodi tanwydd gael proffil uwch yng nghynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi Llywodraeth Cymru am fod cartref cynnes yn angen dynol sylfaenol. Nid oes gobaith realistig o gyrraedd y targed o ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018, ac fel y nododd Age Cymru:
mae llawer o’r mecanweithiau a’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 wedi dyddio neu’n amherthnasol bellach.
Maent yn nodi ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru adnewyddu ei strategaeth tlodi tanwydd, gyda rhaglen ac amserlenni clir, sylfaen dystiolaeth gredadwy, a thargedau tlodi tanwydd newydd, wedi’u seilio ar gyflawni yn hytrach na bod yn gaeth i newidiadau ym mhrisiau ynni.
Fel y nododd NEA Cymru yng nghynhadledd flynyddol Cymru ar dlodi tanwydd ym mis Mawrth, mae gwir angen strategaeth tlodi tanwydd newydd arnom, gan ychwanegu, er bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni drwy ei rhaglen Cartrefi Cynnes yn glodwiw, mae angen newid ein huchelgais yn sylweddol.
Maent wedi gofyn i Aelodau’r Cynulliad alw ar Lywodraeth Cymru: i ddynodi bod effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn flaenoriaeth seilwaith cenedlaethol allweddol sy’n ganolog i flaenoriaethau buddsoddi’r comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru; datblygu strategaeth hirdymor newydd ar gyfer trechu tlodi tanwydd fel mater o frys; gosod targed tlodi tanwydd newydd; gwella cartrefi i safon ofynnol o effeithlonrwydd ynni, yn seiliedig ar y data sydd ei angen; buddsoddi mewn rhaglen effeithlonrwydd ynni wedi’i thargedu a’i hariannu’n dda ar gyfer cartrefi sy’n wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru; arbed bywydau drwy weithredu canllawiau NICE ar fynd i’r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf; ariannu gwasanaethau cyngor annibynnol i gynorthwyo pobl sydd mewn tlodi tanwydd; a diogelu cartrefi sy’n agored i niwed â chronfa argyfwng ar gyfer gwresogi brys pan fo’u hiechyd mewn perygl.
Yn lansiad canolfan gymunedol wledig gogledd Sir y Fflint y mis diwethaf gan Ganolfan Cyngor Effeithlonrwydd Ynni Gogledd Cymru, clywsom y dylai’r prosiect trechu tlodi tanwydd hwn, gan gynnwys cronfa argyfwng cynhesrwydd fforddiadwy Sir y Fflint, fod yn fodel i’w ledaenu ar draws y cymunedau yng nghefn gwlad Cymru. Mae Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) yn cyflwyno prosiectau i helpu aelwydydd sy’n wynebu tlodi tanwydd yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen iechyd ac arloesi. Ym mis Mawrth, gydag NEA Cymru, cynhaliais lansiad rhaglen gynghoriaeth ynni Cymru wledig Calor ar gyfer 2016-17 i helpu cartrefi sy’n wynebu tlodi tanwydd. Mae Ymddiriedolaeth Ynni elusennol ac annibynnol Nwy Prydain yn helpu tua 25,000 o gartrefi sy’n agored i niwed bob blwyddyn, ac mae gan Centrica, eu rhiant gwmni, bartneriaethau elusennol gydag elusen ddyledion StepChange—rwy’n datgan bod un o fy merched yn gweithio iddynt—CLIC Sargent a Macmillan, ac yn gweithio’n agos gydag Action on Hearing Loss, RNIB a Mind. Mae E.ON yn ychwanegu gwerth at eu rhwymedigaethau cwmni ynni i ddarparu cymorth ar gyfer cymunedau yng Nghymru drwy brosiectau a ariennir yn lleol, ymgysylltu â’r gymuned a chynlluniau creu swyddi.
Wel, gyda bron i un o bob pedwar cartref yng Nghymru yn dal i fethu fforddio cynhesu eu cartrefi, mae’n amlwg fod angen inni gynnal y ffocws gwleidyddol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag aelodau’r Gynghrair Tlodi Tanwydd i osod tlodi tanwydd wrth wraidd camau i drechu tlodi, gan ymgysylltu â phob sector a gwneud y mwyaf o’r cyfle a geir drwy gydweithio.