Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 28 Mehefin 2017.
Rwyf am ddechrau drwy ddiolch i’r ACau dros Ogwr a Chastell-nedd am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Fel y mae’r cynnig yn nodi’n gryno, mae sicrhau bod cartrefi Cymru yn defnyddio ynni’n effeithlon yn hollbwysig yn amgylcheddol. Mae hyn yn wir mewn perthynas â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau defnydd, ond mae hefyd yn hanfodol yn economaidd hefyd. Os ydym eisiau elfen gyffredin sy’n uno cymunedau ledled Cymru, y potensial i greu swyddi a thyfu’r economi sy’n seiliedig ar sicrhau bod y cartrefi yn y cymunedau hyn yn gallu defnyddio ynni’n effeithlon yw hwnnw. Mae Cambridge Econometrics wedi awgrymu y byddai pob £1 a fuddsoddir mewn mesurau effeithlonrwydd ynni yn cyflawni £3.20 o dwf.
Ar ben hynny, mae trechu tlodi tanwydd sy’n gallu bod yn achos ac effaith aneffeithlonrwydd ynni yn parhau i fod yn her allweddol i ni o ran mynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar yr agwedd hon ar y cynnig, gan ehangu ar syniadau a chysyniadau a gynhwyswyd yn fy nadl fer yr wythnos diwethaf ar dlodi yng Nghymru.
Mae’r cynnig yn nodi ymrwymiad gwerth £321 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros naw mlynedd i wella effeithlonrwydd ynni a threchu tlodi tanwydd. Mae hyn i’w groesawu, wrth i Ysgrifennydd presennol y Cabinet a Gweinidogion blaenorol sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn flaenoriaethau gwleidyddol. Yn wir, er bod yr uchelgais i ddileu tlodi tanwydd erbyn 2018 yn annhebygol o gael ei gyflawni, rwy’n falch o gefnogi Llywodraeth yma yng Nghymru nad yw wedi cilio rhag yr her.
Mae’r rhaglen Cartrefi Cynnes wedi gweld cyllid Llywodraeth Cymru yn mynd tuag at wella effeithlonrwydd ynni dros 27,000 o gartrefi. Mae aelwydydd wedi gallu gwresogi eu cartrefi ar lefel fwy fforddiadwy a lleihau eu biliau ynni. Yn yr un modd bydd 25,000 o gartrefi yn cael eu gwella dros y pedair blynedd nesaf. Yr un mor bwysig yw’r cynllun peilot Cartrefi Cynnes ar Bresgripsiwn, y cafodd Gofal a Thrwsio grant o £0.25 miliwn drwyddo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Ei nod yw atal pobl hŷn y mae eu hiechyd gwael wedi’i achosi gan oerfel eithafol rhag cael eu derbyn a’u haildderbyn i’r ysbyty. Dylai ein buddsoddiad mewn tai fod yn gysylltiedig hefyd ag ymdrechion i leihau neu ddileu biliau tanwydd. Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn wedi cael effaith.
Mae lefelau tlodi tanwydd yng Nghymru wedi gostwng o oddeutu 29 y cant o gartrefi yn 2012 i 23 y cant yn 2016. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn yn dal i fod bron yn un o bob pedwar cartref yng Nghymru. Mae’n dangos yn glir beth yw maint yr her i gael gwared ar y broblem, ac mae’n hollol annerbyniol fod 291,000 o aelwydydd yng Nghymru yn methu fforddio cynhesu eu cartrefi’n ddigonol. Ar ben hynny, fel y nododd National Energy Action Cymru, amcangyfrifir bod 3 y cant o gartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd difrifol. Mae hyn yn golygu bod angen iddynt wario o leiaf 20 y cant o incwm y cartref ar ynni i sicrhau lefel ddigonol o gynhesrwydd.
Mae Ymddiriedolaeth Trussell wedi cydnabod y cysylltiad rhwng defnydd o’i rhwydweithiau o fanciau bwyd a thlodi tanwydd. I fynd i’r afael â’r broblem, mae wedi datblygu system o fanciau tanwydd, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr banciau bwyd ar fesuryddion talu ymlaen llaw gael talebau er mwyn iddynt allu cadw eu gwres ymlaen am bythefnos. Mae Banc Bwyd Merthyr Cynon yn fy etholaeth yn rhan o’r prosiect hwn.
Gall tlodi tanwydd gael effaith ar draws pob adran o’r Llywodraeth, nid yn unig o ran tai neu ynni, ond hefyd o ran iechyd, perfformiad economaidd ac addysg yn wir. Mae lefelau cyrhaeddiad plant sy’n tyfu i fyny mewn cartrefi oer yn is na lefelau eu cyfoedion. Felly, mae’n rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd Llywodraeth gyfan tuag at hyn. Rhaid inni gydnabod y cyd-destun hefyd nad oes gennym fynediad at bob un o’r dulliau sydd eu hangen i gael gwared ar y broblem hon. Er enghraifft, cost tanwydd ei hun, ond hefyd mentrau fel y taliad tanwydd gaeaf. Efallai mai cadw hwnnw yw’r ymyl arian i gynghrair May gyda’r DUP. Ond rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu.
Mae NEA Cymru wedi awgrymu ystod o atebion ymarferol i helpu i ateb yr her: sicrhau bod gwasanaeth atgyfeirio at un man cyswllt iechyd a thai ar gyfer pobl sy’n byw mewn cartrefi oer; gofyn i’r byrddau gwasanaethau cyhoeddus newydd amlinellu sut y bwriadant fynd i’r afael â chartrefi oer a thlodi tanwydd yn eu cynlluniau llesiant lleol; a datblygu strategaeth hirdymor newydd ar gyfer trechu tlodi tanwydd, gan ddod â’r holl elfennau at ei gilydd. Rwyf hefyd yn cefnogi’r mesurau a amlinellwyd yn y cynnig mewn perthynas â’r comisiwn seilwaith cenedlaethol, ac archwilio modelau cyllid arloesol. Rwy’n cymeradwyo’r cynnig hwn heddiw.