5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effeithlonrwydd Ynni

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:08, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch iawn o ymuno â Simon Thomas i gefnogi’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles a Huw Irranca-Davies. Dylwn gymeradwyo Huw Irranca-Davies am araith ardderchog yr oeddwn yn cytuno â phob gair ohoni.

Mae angen i ni fynd i wraidd y mater yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer, ond mae angen gwneud llawer iawn mwy, ac mae’n rhaid i ni ei wneud yn gyflym. Fel y noda’r cynnig, mae angen cynyddu buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn ddramatig os yw Cymru i gyflawni ei nodau ar ddatgarboneiddio a lleihau tlodi tanwydd. Dylem ddilyn yr Almaen a Denmarc a chael targedau ar gyfer lleihau cyfanswm y defnydd o ynni ac fel cam cyntaf, mae angen i ni archwilio’n drylwyr sut y defnyddiwn ynni a sut y gallwn sicrhau arbedion dramatig o wresogi gofod, trafnidiaeth, yn hanfodol—sy’n aml yn faes sy’n cael ei esgeuluso—diwydiant a defnydd o drydan.

Nid ydym yn trin ynni fel adnodd prin er mai dyna ydyw. Rydym yn wastraffus. Rydym yn llosgi llawer iawn ohono yn ein ceir. Caiff y rhan fwyaf o’n teithiau car eu gwneud dros bellteroedd lleol byr iawn y gallem eu gwneud mewn ffyrdd mwy cynaliadwy, ac rydym yn defnyddio llawer o ynni yn ein cartrefi. Mae ein stoc dai wedi’i hinswleiddio’n wael. Mae angen insiwleiddio gofod mewn tai a busnesau yn llawer gwell. Mae angen pympiau gwres o’r ddaear ac o’r aer yn ogystal â datblygiadau technolegol fel goleuadau LED a nwyddau gwyn mwy effeithlon i leihau ein defnydd o ynni. Rhaid i’r pwyslais, fel y dywedodd Huw, fod ar leihau yn hytrach na chynyddu capasiti’n gyson. Yn hytrach nag adeiladu gorsafoedd pŵer, dylem edrych yn gyntaf i weld sut y gallwn arbed—ffordd lawer mwy effeithlon o wario ein hadnoddau prin.

Gwyddom mai ynni o adeiladau sy’n gyfrifol am oddeutu 37 y cant o allyriadau carbon, felly mae’r achos amgylcheddol dros fynd i’r afael â hyn yn amlwg, ond mae yna achos economaidd hefyd. Ddwy flynedd yn ôl, cefais y fraint o weithio gyda’r Athro Gareth Wyn Jones, sydd wedi gwneud gwaith anhygoel yn y maes hwn dros ddegawdau, a chyda’r Athro Gerry Holtham, ar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar strategaeth economaidd i Gymru. Daeth yr adroddiad hwnnw i’r casgliad fod yr achos economaidd dros wneud effeithlonrwydd ynni stoc dai Cymru yn flaenoriaeth seilwaith cenedlaethol yn gryf.

Fel y noda’r cynnig, dylai’r comisiwn seilwaith arfaethedig ar gyfer Cymru gynnwys effeithlonrwydd ynni yn rhan o’i gylch gwaith. Fel y nododd Vikki Howells, byddai uwchraddio’r holl gartrefi band C yng Nghymru yn costio rhywle oddeutu £2.5 biliwn i £3 biliwn erbyn 2035. Ac os cymhwyswch ganfyddiadau Verco a Cambridge Econometrics i hynny, byddech yn gweld enillion ar fuddsoddiad o oddeutu £3.20 am bob £1 a fuddsoddir. Aeth Huw Irranca-Davies drwy gyfres o brosiectau—Crossrail yn fwyaf nodedig—sy’n darparu llawer llai o werth am arian. Byddwn yn ychwanegu’r elw o £1.62 ar y buddsoddiad yn yr M4 yr ydym yn rhoi £1 biliwn tuag ato. Pe baem yn rhoi’r math hwnnw o arian tuag at effeithlonrwydd ynni, gallem weld llawer mwy o adenillion economaidd ar gyfer creu swyddi a manteision hirdymor.

Ni allaf feddwl am unrhyw enghraifft well, Dirprwy Lywydd, o roi nodau ac amcanion Deddf cenedlaethau’r dyfodol ar waith na phrosiect dewr a beiddgar go iawn ar effeithlonrwydd ynni. Mae’r Llywodraeth hon wedi bod yn buddsoddi, ar gyfartaledd, rywle oddeutu £50 miliwn y flwyddyn mewn cynlluniau Cartrefi Cynnes, ac mae hynny wedi amrywio ychydig bach, ac mae hynny wedi cael croeso, ond rhan fach ohono’n unig ddylai hynny fod. Mae wedi dangos beth y gellir ei wneud. Gan ein bod wedi’i brofi bellach, mae’n rhaid inni roi troed ar y sbardun go iawn—mewn modd sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, yn amlwg—gyda’r polisi hwnnw.

Mae gwaith gan Cyngor ar Bopeth yn awgrymu bod angen i’r Llywodraeth roi arweiniad cryf i gyfleu manteision effeithlonrwydd ynni. Mae eu gwaith ymchwil yn awgrymu nad yw llywodraethau ar bob lefel wedi gwneud hyn yn ddigon da. Gwelsant fod pobl yn fwyaf tebygol o ymateb yn gadarnhaol i gymhellion cadarnhaol ymlaen llaw megis grantiau a benthyciadau ar gyfraddau deniadol, wedi’u dilyn, yn rhyfedd, gan y syniad o gymhellion negyddol yn y dyfodol. Felly, er enghraifft, gallem ddweud y byddwn, ymhen pum mlynedd, yn codi bandiau’r dreth gyngor ar eiddo aneffeithlon a chynnig grantiau a benthyciadau deniadol yn awr i helpu deiliaid tai i gyrraedd graddau’r dystysgrif perfformiad ynni ac osgoi’r gosb honno yn y dyfodol. Dyna’r math o beth y dylem ei wneud. 

Maent hefyd yn nodi na ddylem gosbi’r bobl dlotaf, ac maent yn siarad am symud y galw fel cynllun y dylid ei wneud ochr yn ochr â hyn. Maent yn cyfeirio at brosiect Ynni Lleol Bethesda, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy’n annog trigolion i ddefnyddio ynni ar wahanol adegau o’r dydd er mwyn manteisio ar gynhyrchiant rhad o fewn yr hyn sydd i bob pwrpas, felly, yn farchnad ynni fewnol leol. Gallai’r math hwn o fodel, o’i wneud ar raddfa fwy, fod o fudd amlwg i’r holl ddefnyddwyr pe bai’n lleihau llwyth brig ar draws y grid cyfan. Fel y dywedais, Dirprwy Lywydd, mae’n bryd inni roi’r gorau i brofi; mae’n bryd dechrau gwneud, ar raddfa fawr.