6. 6. Dadl gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Adroddiad ar Ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:44, 28 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac i longyfarch Mike Hedges ar ei ymddangosiad—fel yr arferai arweinwyr Torïaidd ei wneud cyn etholiadau—fel Cadeirydd y pwyllgor. Rwy’n gwybod na chawsom ni etholiad, ond gallaf ddweud pe bai un wedi bod a’i fod yn ymgeisydd, byddai wedi cael fy nghefnogaeth frwd, gan fy mod wedi gweld y ffordd y mae wedi gweithio yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sy’n drawiadol iawn yn wir, ac rwy’n siŵr y bydd yn cadeirio’r pwyllgor newid hinsawdd yn ardderchog.

Rwy’n credu bod hwn yn adroddiad da iawn. Nid wyf yn cytuno gyda phob un o’r argymhellion, ond rwy’n cytuno â bron bob un ohonynt, ac rwy’n meddwl ei fod yn helpu i roi’r materion mewn persbectif. Os trown at baragraffau 8 ac 11 yn yr adroddiad, maent yn rhoi’r ffigurau fod Cymru’n allforio gwerth £12.3 biliwn o nwyddau, ond 2 y cant yn unig o’r rheiny sy’n allforion bwyd ac anifeiliaid byw. Felly, mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru, ond fel y dywedais yn gynharach, beth bynnag y bo’r problemau a allai ddeillio o broses ansicr y newid o ble rydym yn awr i ble y byddwn ar ôl Brexit, dylai fod yn gymharol hawdd i Lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru ddarparu ar gyfer y goblygiadau ariannol beth bynnag a benderfynir. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl na fydd amaethyddiaeth yng Nghymru yn waeth ei byd ar ôl Brexit nag y mae yn awr. Yn wir, mae’r cyfle i sicrhau gwelliannau yn llawer iawn mwy.

Mae gennym ddiffyg masnach enfawr mewn cynhyrchion bwyd. Roeddem yn allforio gwerth £20 biliwn o fwyd a diod o’r DU; rydym yn mewnforio gwerth £43 biliwn mewn gwirionedd. Yn 2016, y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, ehangodd y bwlch masnach hwnnw dros 4 y cant mewn gwirionedd. Felly, os yw’r Undeb Ewropeaidd mor ffôl â pheidio ag ymrwymo i gytundeb olynol gyda ni, yna mae cyfle helaeth i sicrhau mewnforion yn eu lle, oherwydd unwaith eto, mae’r adroddiad yn ddefnyddiol iawn yn rhoi ffigyrau’r tariffau sydd mewn grym inni ar gynhyrchion bwyd, ac maent yn enfawr wrth gwrs. 84 y cant ar garcasau gwartheg, 87 y cant ar gig eidion wedi’i rewi, 46 y cant ar garcasau cig oen, ac yn y blaen ac yn y blaen.

Mae hynny’n dangos i ni pa mor anflaengar yw effaith y polisi amaethyddol cyffredin ar bobl gyffredin mewn gwirionedd, gan fod mathau o amddiffyniad drwy dariffau yn ffordd aneffeithlon iawn o gefnogi amaethyddiaeth ac incwm ffermydd, gan mai’r bobl sy’n ysgwyddo’r baich mwyaf yw’r rhai ar yr incwm isaf, gan fod pawb yn gorfod prynu bwyd a chynhyrchion bwyd. Felly, maent yn tueddu i fod yn anflaengar iawn o ran eu heffaith, ac un o’r manteision mawr o allu cynllunio ein polisi amaethyddol ein hunain ar gyfer y DU ac ar gyfer Cymru yw y byddwn, efallai, yn gallu ystumio’r system fwy o blaid pobl ar ben isaf y raddfa incwm. Ac rwy’n gobeithio’n fawr mai dyna beth y gallwn ei wneud.

Rwy’n credu bod argymhelliad 2 yn afrealistig, wrth alw am lais cyfartal wrth y bwrdd negodi yn y trafodaethau, a mynediad at y farchnad sengl i’r gwledydd datganoledig, gan mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r cyfrifoldeb o drafod ar ran y Deyrnas Unedig gyfan, ac rwy’n credu ei bod yn afrealistig dychmygu y gallai unrhyw un o’r gwledydd cyfansoddol gael feto ar ei phenderfyniadau. O ystyried bod gan Loegr 85 y cant o boblogaeth y DU, nid yw’r ddadl hon yn wleidyddiaeth ymarferol, beth bynnag y gallai’r rhinweddau fod o safbwynt Plaid Cymru, ac rwy’n deall yn iawn pam eu bod yn awyddus i gyflwyno’r achos o blaid hynny. Ond er hynny, byddai bod yn rhan o system ffederal yn sefyllfa wahanol iawn i’r un sydd gennym ar hyn o bryd, a byddai iddo oblygiadau o ran trosglwyddiadau cyllidol rhwng Lloegr a gweddill y Deyrnas Unedig yn ogystal, a gallai canlyniadau hynny fod yn hynod o niweidiol i Gymru. Felly, mae’n fater o enillion a cholledion.

Ond wedi dweud hynny, rwy’n credu y dylai’r gwledydd datganoledig gael parch cydradd o fewn y Deyrnas Unedig yn y trafodaethau hyn, ac y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gadw buddiannau Cymru, ac amaethyddiaeth Cymru yn benodol, yn flaenllaw yn ei meddwl yn y trafodaethau. Er bod trafodaethau masnach rydd yn anochel yn gyfaddawd rhwng un diddordeb a’r llall, fel y dywedodd Simon Thomas, rhaid inni ddod o hyd i ffordd o ddigolledu’r collwyr, os oes collwyr, yn y broses honno. O ystyried yr ystadegau a ddyfynnais ar ddechrau fy araith, nid wyf yn meddwl bod honno’n sefyllfa amhosibl inni fod ynddi yn y pen draw.

O ran ymfudo, a gweithwyr amaethyddol yn benodol, cyn i ni fynd yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd roedd gennym gynllun gweithwyr amaethyddol tymhorol a oedd yn cael ei gynnal hyd nes yn gymharol ddiweddar, ac ni ddylai fod yn amhosibl ei adfer ac ystyried unrhyw fylchau sgiliau a geir yn economi Cymru, yn ogystal â rhannau eraill o’r DU. Unwaith eto, mae hynny’n galw am sensitifrwydd ar ran Llywodraeth y DU.

Felly, ychydig iawn o amser a geir yn y ddadl hon i fanylu ar holl gymhlethdodau’r broses hon, ond rwy’n credu bod yr adroddiad yn rhoi sylfaen dda iawn inni symud y ddadl yn ei blaen, ac rwy’n llongyfarch aelodau’r pwyllgor am gyrraedd consensws ar hynny.