Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 28 Mehefin 2017.
Rwy’n anghytuno braidd â Simon na wnaeth yr etholiad cyffredinol newid unrhyw beth yn wleidyddol o ran y ddadl a gawsom ddoe, ond rwy’n credu ei bod yn siomedig iawn, ar ôl galw’r etholiad cyffredinol, na ddywedodd Theresa May ddim byd o gwbl wedyn am y telerau a’r amodau Brexit, sef y rheswm, yn ôl yr honiad, dros gynnal yr etholiad cyffredinol. Rydym yn dal i fod yn y tywyllwch ynglŷn â’r hyn y gallai’r dyfodol ei gynnig, er ein bod yn dechrau cael dadl resymol ynglŷn â rhinweddau newid ein polisi mewnfudo.
Credaf fod hynny’n un o’r bygythiadau sylweddol sydd ar garreg y drws yn awr, yn yr ystyr fod llawer o’n diwydiannau’n dibynnu ar lafur mewnfudwyr o rannau eraill o Ewrop mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, mae ein diwydiant twristiaeth yn dibynnu llawer ar lafur mudol a llafur Ewropeaidd, fel y mae ein lladd-dai a’n diwydiant prosesu bwyd. Felly, mae gennym her eisoes yn sgil llai o Ewropeaid yn dod i’r DU i weithio oherwydd y gostyngiad yng ngwerth y bunt, sy’n gwneud y cyflogau a gynigir yn llai deniadol. Un o’r heriau rydym yn eu hwynebu yn awr yw hyn: pwy sy’n mynd i wneud y swyddi hyn os nad chânt eu gwneud gan Ewropeaid eraill? A ydym yn mynd i gynyddu cyflogau yn y sectorau hyn, a fydd yn denu mwy o bobl leol, neu’n wir yn cadw’r bobl sy’n dod o wledydd Ewropeaidd eraill, neu a ydym yn mynd i fod yn hapus i weld y gweithgareddau hyn yn cael eu hallforio i rywle arall, boed yn lladd-dai i Loegr neu brosesu bwyd i rannau eraill o Ewrop? Ond rwy’n credu bod hynny yn ei dro yn gwaethygu’r heriau a wynebwn o ran newid yn yr hinsawdd, a pho fwyaf y byddwn yn ei ychwanegu at filltiroedd bwyd, y mwyaf heriol y bydd hynny.
Mae Neil Hamilton yn iawn i nodi bod gennym ddiffyg masnach enfawr mewn bwyd ar hyn o bryd, felly ceir llawer o gyfleoedd i arallgyfeirio. Fodd bynnag, gallai fod angen datgymalu’r patrymau amaethyddol presennol yn helaeth os ydym yn sydyn yn mynd i gael tariffau wedi’u gorfodi arnom ar gyfer sicrhau mynediad at y farchnad sengl, a fydd yn cael effaith enfawr a chwyldroadol ar ein diwydiant cig oen, er enghraifft, lle mae 30 y cant o’r cynnyrch yn cael ei allforio i Ewrop. Byddai tariffau’n lladd y busnes hwnnw dros nos.
Felly, er bod y PAC wedi gwarantu cynhyrchiant bwyd ar ôl yr ail ryfel byd, mae’n wir nad yw wedi darparu yn union y math o ddiwydiant bwyd iach, lleol y byddwn i, yn sicr, yn rhagweld y byddem yn ei ddymuno, er mwyn sicrhau bod gennym sector amaethyddol ffyniannus sydd o fudd i’n cymunedau gwledig, ond sydd hefyd o fudd i’r boblogaeth yn gyffredinol. Oes, mae’n rhaid i bawb brynu bwyd, ond byddai’r hyn y mae llawer o bobl yn ei brynu ar hyn o bryd yn cael anhawster i basio’r Ddeddf disgrifiadau masnachol fel bwyd. Sut yn union rydym wedi caniatáu i’r proseswyr a’r dosbarthwyr bwyd ailwisgo eu cynnyrch yn yr ymgyrch i wneud elw ar unrhyw gost, tra bod y rhai sydd mewn gwirionedd yn cynhyrchu bwyd heb fod wrth y llyw go iawn, ac rydym wedi colli golwg ar yr angen i faethu ein cenedl?
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i’w chwarae drwy ei strategaeth caffael bwyd. Mae iechyd y genedl yn dibynnu ar newid radical yn ein deiet. Mae yna ormod o bobl nad ydynt byth yn bwyta ffrwythau a llysiau ffres, ac os nad ydym yn eu gweini mewn ysgolion ac ysbytai, prin y gallwn synnu. Mae gennym lawer i’w ddysgu gan ein partneriaid Ewropeaidd, sy’n ymfalchïo yn eu diwylliant bwyd lleol mewn ffordd y mae llawer ohonom yn methu gwneud. Ceir cyfleoedd enfawr i ni yma i sicrhau bod gennym amaethyddiaeth yng Nghymru sydd o arwyddocâd diwylliannol a chymdeithasol, y tu hwnt i’r niferoedd a gyflogir neu’r cyfalaf a fuddsoddir.
Mae gennym fusnesau bwyd a ffermio arloesol yma yng Nghymru ac mae angen i ni barhau i’w datblygu. Er enghraifft, mae Puffin Produce, sydd bellach yn cynhyrchu bron yr holl datws a werthir yn ein holl archfarchnadoedd ledled Cymru, yn ogystal â nifer cynyddol o lysiau eraill a rhai mathau o ffrwythau, yn fodel cwbl ragorol ar gyfer y dyfodol. Ond mae’n rhaid i arallgyfeirio fod ar agendâu ffermwyr pan fo marc cwestiwn mor fawr dros rai o’r pethau y maent yn dibynnu ar eu hallforio ar hyn o bryd. Mae llawer o ffermwyr yn dweud nad yw hyn yn bosibl oherwydd ein tywydd, ond rwy’n herio’r ymagwedd ‘busnes fel arfer’, gan mai dŵr yw’r aur newydd ac mae gennym ddigon ohono, tra bod y rhan ddwyreiniol o Brydain yn wynebu sychder difrifol. Ni allwn barhau i dynnu dŵr o gronfeydd tanddaearol mewn ffordd anghynaliadwy. Felly, rwy’n meddwl bod llawer o ffyrdd eraill y gallem weld ein diwydiant bwyd yn arallgyfeirio, yn ogystal â gwelliant yn iechyd ein cenedl, wrth inni symud ymlaen yn y dirwedd go anghyfarwydd hon yn y byd ôl-Brexit.