Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 28 Mehefin 2017.
A gaf fi ddweud, nid fy adroddiad i ydoedd, adroddiad y pwyllgor yn ei gyfanrwydd ydoedd? Rwy’n cytuno, heb gymhorthdal, bydd yn anodd iawn gweld y math hwnnw o dirwedd ffermio defaid—ffermwyr mynydd—yn goroesi unrhyw beth tebyg i’r modd y maent yn ei wneud yn awr. Un peth a welsom yn yr adroddiad yw gwerth y dirwedd honno i dwristiaid a phobl sy’n dod i Gymru ac rwy’n credu y dylai fod yn flaenoriaeth, gyda’r arian a fydd gennym, i gadw hynny.