Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 28 Mehefin 2017.
Mae gan Gymru weithlu a chymdeithas sy’n heneiddio. Bydd traean o’r gweithlu dros 55 neu 50 oed yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae’n ffigur trawiadol. Fodd bynnag, mae buddsoddi mewn sgiliau ac addysg i oedolion yn canolbwyntio’n drwm ar oedolion ifanc. Mae hyn wedi bod er anfantais i bobl 25 oed a throsodd. Yn y dyfodol, bydd angen i fusnesau gael gweithlu â sgiliau uwch byth, a bydd technolegau newydd yn cynyddu’r galw hwnnw. Eto i gyd, mae lefelau cyfranogiad mewn dysgu gydol oes yn dirywio. Mae arnom angen system addysg i oedolion sydd o fudd i’n heconomi ac yn hybu ymchwil. Mae arnom angen system sy’n cydnabod anghenion oedolion i astudio’n hyblyg ac sy’n rhoi cyfle i wneud hynny.
Mae’r galw am weithwyr medrus iawn yn economi’r DU yn ei chyfanrwydd yn cynyddu. Yn ôl Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, mae mwy na thri chwarter y busnesau’n disgwyl y bydd ganddynt fwy o swyddi i bobl â lefelau sgiliau uwch dros y blynyddoedd nesaf. Ond unwaith eto, yn ôl y CBI, mae 53 y cant o gwmnïau Cymru yn teimlo na fyddant yn gallu dod o hyd i’r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt i ateb y galw yn y dyfodol. Dengys y dystiolaeth yn glir fod tri chwarter y bobl sydd mewn gwaith ar gyflog isel yn dal i fod mewn gwaith ar gyflog isel 10 mlynedd yn ddiweddarach. Felly, mae’r duedd yn glir: mae busnesau angen gweithlu mwy medrus, ac fe fyddant angen gweithlu mwy medrus yn y dyfodol.
Mae ymddangosiad technolegau newydd eisoes yn cael effaith fawr yn y farchnad swyddi ar y sgiliau sydd eu hangen ar weithlu yfory. Mae angen dull newydd o uwchsgilio er mwyn sicrhau bod y galw yn y dyfodol yn cael ei ddiwallu a bod busnesau ledled Cymru yn gallu manteisio ar y technolegau newydd hyn. Yn anffodus, y duedd ar draws Cymru yw bod llawer llai o bobl yn cymryd rhan mewn rhaglenni a fydd yn eu helpu i ychwanegu at eu sgiliau. Rhwng 2015 a 2016 cafwyd gostyngiad o fwy na 23,000 yn nifer y dysgwyr sy’n oedolion. Mae’r dirywiad hirdymor yn peri mwy o bryder hyd yn oed. Gwelodd Cymru ostyngiad o 25 y cant yn nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn rhaglenni dysgu rhwng 2012 a 2016. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnydd sylweddol yn cynorthwyo’r sector preifat i roi hwb i uwchraddio sgiliau.
Mae’r strategaeth ddiwydiannol ddiweddar wedi helpu i greu’r fframwaith cywir i gymell busnesau i fuddsoddi yn sylfaen sgiliau eu gweithlu. Mae strategaeth Llywodraeth y DU yn rhoi blaenoriaeth i waith y Llywodraeth gyda darparwyr cymwysterau a sefydliadau dysgu. Mae’r dull hwn o gydweithio yn sicrhau bod cyrsiau newydd yn cael eu datblygu er mwyn galluogi dysgwyr rhan-amser a dysgwyr o bell i gymryd rhan, ac mae’n apelio mwy at y rhai sydd eisoes yn y gweithlu ac yn dymuno dysgu sgiliau newydd neu wella’u sgiliau. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod sefydliadau gwahanol hyd yma wedi nodi anghenion sgiliau yn eu meysydd eu hunain. Fodd bynnag, nid oes un sefydliad wedi cael cyfrifoldeb dros nodi tueddiadau sgiliau a fydd yn datblygu yn y dyfodol. Felly, mae Llywodraeth y DU yn gweithio tuag at un olwg gydgysylltiedig awdurdodol ar y bwlch sgiliau a wynebir gan y DU yn awr ac yn y dyfodol. Maent yn asesu newidiadau i’r costau y bydd pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ddysgu i’w gwneud yn llai brawychus. Ond yn gyntaf ac yn bennaf, mae’r strategaeth yn cydnabod bod sectorau twf uchel yn yr economi yn galw am setiau sgiliau uchel cyfatebol. Mae’n amlinellu camau i sicrhau bod cwmnïau’n gallu cyfrannu mwy tuag at gynyddu lefel sgiliau’r gweithlu drwyddo draw.
Llywydd, mae angen gweledigaeth ddiwydiannol o’r fath ar Gymru er mwyn sicrhau y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y technolegau newydd a ffyrdd o weithio a fydd yn trawsnewid y gweithle yng Nghymru. Dylem ddysgu’r byd, nid dysgu gan y byd. Ceir rhai meysydd, cysyniadau megis dysgu oedolion, parodrwydd ar gyfer dysgu, cyfeiriadedd a chymhelliant i ddysgu—mae’r rhain oll yn gymhelliant ar gyfer ein pobl ifanc a’r henoed a dynion a menywod gyda’i gilydd. Rydym yn ddwbl y grym a gallwn yn sicr drawsnewid ein heconomi, ein hiechyd a’n lles, a grybwyllwyd yn gynharach. Yn bendant, gall helpu i sicrhau bod ein pobl hŷn wedi’u haddysgu’n dda a hyrwyddo ailddysgu yn y gweithle yn y wlad hon. Diolch.