Part of the debate – Senedd Cymru am 6:34 pm ar 28 Mehefin 2017.
Wel, mae’n amlwg, o’r ateb, mai ‘na’ yw’r ateb, mewn gwirionedd, ac mae hynny yn resyn, wrth gwrs, ac yn siom oherwydd mae’r dyfodol yn ddigidol, ac mae teclynnau fel Apple Siri, sy’n adnabod lleferydd ac yn ateb cwestiynau, yn dod yn fwy poblogaidd yn ein bywydau dydd i ddydd. Ond, fel chi’n gweld, mae yna berig fod y dyfodol digidol hwnnw yn ddyfodol di-Gymraeg os na wnawn ni, wrth gwrs, ymateb i’r her honno.
Dyma yw hanfod fy nadl i—fod yn rhaid i’r Gymraeg fod ar flaen y gad dechnolegol ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i fynnu gweledigaeth ac mae’n mynd i alw am weithredu. Nid yw hi’n ormodaeth, yn fy marn i, i gymharu’r sefyllfa yna heddiw—ac rwy’n gweld sefyllfa, gyda llaw, lle mae yna gyfleon yn ogystal â pheryglon—â digwyddiad hanesyddol dros 400 mlynedd yn ôl.
Ym 1588, mi benderfynwyd cyfieithu’r beibl am resymau gwleidyddol cymaint â dim rheswm arall, er mwyn ceisio cymhathu Cymru, a oedd yn eithaf uniaith Gymraeg ar y pryd, â’r wladwriaeth newydd a oedd yn datblygu. Ond, beth bynnag oedd y cymhellion, wrth sicrhau bod y beibl ar gael yn Gymraeg, fe roddwyd hwb enfawr i’r Gymraeg fel iaith fodern mewn byd oedd yn newid yn gyflym. Nid oes angen pwysleisio faint yn gyflymach mae’n byd bach ni’n troi erbyn hyn, gyda cyfryngau newydd yn datblygu a byd yr apiau a’r datblygiadau cyfrifiadurol yn syfrdanu ac yn swyno bron yn ddyddiol.
Felly, mae’r cyfnod o’n blaenau ni yn cynnig yr un heriau o ran newidiadau, ond y tro hyn ym myd technoleg, y we, a’r cyfryngau digidol. Mae’r cyfryngau digidol yn dod yn rhan fwyfwy canolog o’n bywydau ni, ac rŷm ni’n dechrau gweld cenhedlaeth newydd o offer yn cael eu rheoli gan ein lleisiau ni. Mae hyn yn her wahanol iawn, wrth gwrs, fe fuaswn i’n dadlau, i ddatblygiad diweddar e-lyfrau, er enghraifft, a’r we—rhywbeth ysgrifenedig a oedd yn caniatáu i’r Gymraeg ddatblygu’n naturiol oedd hyn, ac mae’r Gymraeg, fel y mae hi dros yr oesoedd, wedi profi i fod yn hynod o hyblyg fel iaith.
Mae technoleg sy’n dibynnu ar y llais, fodd bynnag, yn dra, dra gwahanol. Mae rhai pobl yn darogan mai dyma ddechrau’r diwedd i ieithoedd bychain fel y Gymraeg, ac y byddan nhw’n wynebu difodiant digidol—’digital extinction’—wrth i’r Saesneg eu gwthio nhw o’r neilltu. Dim ond Saesneg ac ambell i iaith fawr arall y mae Apple Siri, Amazon Alexa, Microsoft Cortana a Google Home a’u tebyg yn eu deall. Felly, os oes un o’r dyfeisiau hyn gennych chi, fe fyddwch chi’n siarad mwy a mwy o Saesneg yn eich cartref wrth ichi eu defnyddio nhw.
Rydw i’n ymwybodol o deuluoedd Cymraeg lle mae’r plant bellach yn siarad Saesneg o hyd â’r teclynnau yma yn y tŷ. Mae perig yn hynny, wrth gwrs, oherwydd mae’n newid rhywfaint o iaith y cartref, ac mae hynny’n destun loes i nifer o rieni, rwy’n gwybod. Ond pa fath o neges y mae hynny’n rhoi i’r bobl ifanc hynny o ran beth yw iaith technegau modern, beth yw iaith y dyfodol, a’r canfyddiad maen nhw’n ei gael wedyn o amherthnasedd y Gymraeg yn y dyfodol hwnnw?
Ond mae yna gyfle newydd hefyd yn agor i’r Gymraeg. Nid oes rhaid i’r dechnoleg yma fod yn elyn i’r Gymraeg. Fe all technoleg, fel y gair ysgrifenedig a’r gair print nôl ym 1588, helpu i gryfhau’r iaith, rhoi cyfryngau newydd iddi flodeuo ynddyn nhw, ac offer defnyddiol i gynorthwyo pobl i ddefnyddio’r iaith honno. Mae llwyddiant Say Something in Welsh fel cwrs dysgu Cymraeg ar y we yn rhywbeth y dylem ni gyd fod yn ei ddathlu.
Mae’r her yma hefyd yn gyfle i roi hwb i’r sectorau technoleg gwybodaeth a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru, a defnyddio ein harbenigedd mewn dwyieithrwydd i ennill marchnadoedd newydd a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd gyda meddalwedd arloesol. Rwy’n gwybod am gwmnïau yng Nghymru sydd wedi datblygu meddalwedd sydd yn gallu gweithredu yn ddwyieithog sydd wedi ennill cytundebau ar draws y byd, oherwydd bod y gwledydd hynny yn chwilio am feddalwedd sy’n gallu gweithredu mewn mwy nag un iaith.
Rŷm ni i gyd bellach yn gyfarwydd â defnyddio geiriaduron electronig ar y we a’n ffonau symudol. Mae Geiriadur yr Academi a Geiriadur Prifysgol Cymru wedi’u digido, wrth gwrs. Mae’r Ap Geiriaduron gan Brifysgol Bangor wedi’i lawrlwytho dros 90,000 o weithiau ac yn cael ei ddefnyddio gan Gymry Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd. Rwy’n ymfalchïo yn y gwaith arloesol mae Prifysgol Bangor yn ei wneud yn y maes yma. Mae uned technolegau iaith Canolfan Bedwyr ym Mangor wedi gafael yn y syniad ac yn herio monopoli’r ieithoedd mawr ar dechnoleg y dyfodol.
Mae’n her hefyd i’r syniad fod cwmnïau enfawr y byd technolegol yn medru anwybyddu’r ieithoedd bychain a cheisio’n corlannu ni i ddefnyddio’r ychydig o ieithoedd mawr ymerodrol yma y maen nhw’n eu dewis. Mewn gwirionedd, mae’r ieithoedd bach gyda’i gilydd yn llawer mwy, wrth gwrs, nag ambell i un o’r ieithoedd mawr yma, ac mi allai cydweithio technolegol dyfeisgar a hyblyg ein rhoi ni ar y blaen, yn lle ein bod ni’n ceisio dal i fyny o hyd.
Mae technoleg testun i leferydd eisoes wedi cael ei defnyddio yn Gymraeg, a gwaith wedi cael ei wneud gan yr RNIB ac eraill ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg nhw, er enghraifft. Ond, yn ogystal, wrth gwrs, mae ochr arall y dechnoleg, sef y gallu i siarad Cymraeg gyda’r cyfrifiadur, eisoes yn cael ei ddatblygu, fel y gwelwn ni â phrototeip Macsen, cynorthwyydd digidol personol, tebyg i Alexa a Siri, yn y Gymraeg. Prifysgol Bangor sydd wrth gefn i hyn hefyd, wrth gwrs. Os oes gen i ble penodol i’r Llywodraeth yn hyn oll, wrth gwrs, mi hoffwn i annog y Llywodraeth i barhau ac i ymestyn y buddsoddiad gwerthfawr sy’n cael ei wneud yn y gwaith allweddol mewn technolegau iaith yn y fan honno.
Nawr, yn y gorffennol, mi fanteisiwyd ar arian datblygu economi i ddatblygu technoleg Cymraeg, mi ddefnyddiwyd arian Ewrop, wrth gwrs, i ddatblygu technoleg lleferydd a thechnoleg cyfieithu, ac, ar hyn o bryd, mae yna ddau brosiect arwyddocaol i drosglwyddo gwybodaeth i ddiwydiant yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor, lle cafodd y rhan fwyaf o’r ymchwil a’r gwaith datblygu yn y maes yma ei wneud hyd yn hyn. Mae grantiau bach technoleg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynorthwyo’r maes, gan gynnwys y grant presennol i greu Macsen, y cynorthwyydd digidol Cymraeg cyntaf roeddwn i’n sôn amdano fe funud yn ôl. Mae cyfleoedd newydd yn agor nawr hefyd i ddefnyddio data mawr, ‘big data’, ar gyfer ieithoedd bychain fel y Gymraeg. Dyna pam mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yn ein gwlad ni yn gwneud eu holl data yn agored er mwyn cynorthwyo ymchwil a datblygu yn ein prifysgolion ac yn y sector breifat.
Mae’n amser i ni bellach edrych ar strategaeth dymor hir yn y maes yma, a buddsoddi o ddifri yn y technolegau hynny sy’n mynd i alluogi’r Gymraeg i gael chwarae teg yn y cyfryngau digidol. Ac o’i wneud yn iawn, mi all ymchwil a datblygu technolegau iaith, ie, hyrwyddo’r Gymraeg, ond hefyd, wrth gwrs, adfywio’r economi. Ar hyn o bryd, mae yna 1.5 miliwn o swyddi yn y sector digidol ym Mhrydain, ac mae’r sector yn mynd i dyfu’n aruthrol dros y blynyddoedd nesaf. Erbyn 2020, amcangyfrifir y bydd 100,000 o swyddi codio newydd ym Mhrydain—dwy flynedd a hanner i ffwrdd. Mae’r farchnad fyd-eang yn un amlieithog, wrth gwrs, ac mae galw mawr am feddalwedd a theclynnau digidol sy’n deall ieithoedd ar wahân i’r Saesneg, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n tyfu fel marchnad yn gyson. Mi all Cymru fanteisio ar y ffaith ein bod ni yn wlad ddwyieithog er mwyn creu ei sector digidol, llewyrchus, ei hun, yn arbenigo mewn technolegau iaith. Byddai hynny’n sefyllfa o ennill dwbl i ni: ennill i’r Gymraeg ac ennill i’r economi Cymreig.
Wrth i ni wynebu colli arian Ewrop, mae’n bwysicach fyth fod buddsoddiad o du San Steffan ac o Lywodraeth Cymru yn dod i lanw’r bwlch yna. Rydw i’n croesawu, wrth gwrs, buddsoddiad o £1.3 miliwn mewn clybiau codio yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar Addysg yn ddiweddar, yn enwedig gan, wrth gwrs, fod un o’r blaenoriaethau a grybwyllwyd bryd hynny yn sôn am gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg. Mae’n bwysig—yn allweddol—i ni hyfforddi’r genhedlaeth nesaf i fod yn barod i fanteisio ar gyfleoedd technolegau ddwyieithog ac amlieithog. Ond mae angen buddsoddiad cynaliadwy, sylweddol, o du Cynghorau Ymchwil Prydain, Llywodraeth Cymru, ac eraill, yn lle’r grantiau bychain, tameidiog, presennol yma. Dyma gyfle i ni gryfhau’r seilwaith ar gyfer technoleg a’r Gymraeg gyda gweledigaeth dymor hir ar gyfer y Gymraeg a’r economi yng Nghymru.
Mae nod y Llywodraeth, wrth gwrs, o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her y gallwn ni ei chyflawni, ond mae angen i ni sylweddoli bod angen mwy na dim ond defnyddio y gyfundrefn addysg Gymraeg i gyflawni’r nod honno. Mae technoleg, a thechnoleg iaith yn benodol, yn hanfodol i helpu i wireddu’r uchelgais honno. Nawr, bydd y byd technolegol erbyn 2050, wrth gwrs, bron yn amhosib i ni ei amgyffred, wedyn, heddiw. Mi fydd fy mhlant i yn oedolion erbyn hynny, ac wedi’u trwytho a'u trochi, rydw i’n siŵr, yn y byd cyfrifiadurol a thechnolegol newydd yma. Mae'r cenedlaethau sydd i ddod angen gwybod bod holl fanteision y byd mawr newydd yma yn mynd i fod ar gael iddyn nhw yn y Gymraeg. Dyna yw'r her. Ac, o adnabod yr her ac ymateb iddi gyda menter a dyfeisgarwch, fe allwn ni fod yn genedl fwy hyderus wrth wynebu'r dyfodol digidol sydd o’n blaenau. Efallai, mewn 400 mlynedd, mi fydd haneswyr yn edrych yn ôl ar ein llwyddiant ni heddiw i ymateb i'r her yma yn yr un ffordd ac a wnaethpwyd bryd hynny—ac ein bod ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r weledigaeth a’r fenter wleidyddol a ddangoswyd heddiw, ac nid dim ond yn ôl ym 1588.