9. 9. Dadl Fer: Technoleg a'r Gymraeg: Perygl neu Gyfle?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 28 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:45, 28 Mehefin 2017

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r ddadl yma. Rydw i’n falch iawn bod yr Aelod dros y gogledd wedi dewis y pwnc yma ar gyfer y drafodaeth. Rydw i’n meddwl, pan rydym ni’n trafod hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, nad oes digon o drafod amboutu’r pwnc yma, ac rydw i’n falch eich bod chi wedi dewis y drafodaeth yma y prynhawn yma. Rydw i’n edrych ymlaen at swyddogion y Senedd yn cyfieithu beth mae Siri wedi ei ddweud, hefyd. So, fe wnaf i wneud pwynt o edrych ar y Cofnod yn y bore.

Mae Llyr a finnau wedi trafod dros y Siambr yma sawl gwaith, ac rydw i’n gwybod bod Llyr yn hoff iawn o eiriau fel ‘her’ a ‘risg’. Mae’n well gen i’r ail air mae’n ei ddefnyddio, sef ‘cyfle’, achos rydw i’n meddwl bod rhaid inni ystyried y newidiadau rydych chi wedi eu trafod ac wedi eu disgrifio’n arbennig o dda y prynhawn yma fel cyfle ar gyfer yr iaith Gymraeg. Gormod o weithiau, pan rydym ni’n trafod yr iaith, rydym ni yn trafod mewn ffyrdd gwahanol a negyddol ac yn defnyddio geiriau a gosodiadau negyddol. Rydw i eisiau defnyddio geiriau positif, ac rydw i eisiau bod yn hynod o bositif amboutu sut rydym ni’n gallu sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan o’r byd newydd yma ac hefyd yn gweithredu fel ffordd o arloesi ar gyfer y dyfodol, hefyd. Rydw i’n meddwl bod gan bob un ohonom ni gyfle i gyfrannu at hynny ond, yn amlwg, rydw i hefyd yn cydnabod bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb a rôl i arwain hefyd, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd pobl yn gweld bod y Llywodraeth yma wedi bod yn arwain y ffordd rydym ni’n meddwl, a hefyd y ffordd rydym ni’n gweithredu. Rydw i’n credu bod y ddau ohonyn nhw yn bwysig.

Un o’r rhesymau, Dirprwy Lywydd, pam roeddem ni wedi dewis ac wedi cytuno ar y nod a’r amcan o greu miliwn o siaradwyr oedd oherwydd y penderfyniad bod rhaid i bethau newid. Gallwn ni barhau i reoli’r sefyllfa polisi iaith fel rydym ni wedi bod yn ei wneud dros y bron ugain mlynedd diwethaf, a rheoli’r ffordd rydym ni’n datblygu polisïau’r Gymraeg, polisïau dwyieithrwydd, safonau a phob dim arall. Ond, rydw i’n meddwl bod yna osodiad fan hyn, ar draws y Siambr, fod rhaid i bethau newid, ac mae hynny’n meddwl bod rhaid gwneud pethau’n wahanol. Os ydych chi’n edrych ar y pwnc yma a’r ffordd rydym ni’n ystyried y Gymraeg, mae technoleg a’r byd digidol yn ffocws clir ar gyfer y math o newid y mae’n rhaid inni ei weld, ac y mae’n rhaid i bob un ohonom ni ei arwain.

Rydw i’n gwybod y math o fyd y bydd ein plant ni’n rhan ohono fe: byd gwahanol iawn i’r byd y gwnes i dyfu lan ynddo—nid jest yn Nhredegar, ond ym mhob man. Pan ddechreuais i’r gwaith, roedd yna ‘typewriters’ yn y swyddfa, ac rydw i’n dal i gofio perswadio cydweithwyr i ddefnyddio nid jest ‘typewriters’ electronig—ac wedyn pan ddaeth y cyfrifiadur cyntaf i’r swyddfa roedd yna swyddfa arbennig ar gyfer y peth, gyda chyfleoedd bob dydd inni fynd i ymweld ag e. Pan rydw i’n dweud hyn wrth fy mhlant i, maen nhw’n edrych arnaf fi fel yr oeddwn i’n edrych ar fy nhad-cu flynyddoedd yn ôl. So, mae’r byd yn newid ac mi fydd newid yn batrwm parhaol o’r byd, ac rydw i’n falch iawn ein bod ni’n gallu—ac ein bod ni’n cydnabod hyn—ein bod ni’n gallu gwneud ymdrech nawr i hybu’r iaith yn y byd yma.

Rydw i’n gwybod bod yna gymaint o gynnwys, gwasanaethau, meddalwedd, apiau ac ati ar y we ac mae’n rhy rhwydd ambell waith i’r Gymraeg fod yn anweledig wrth gystadlu am sylw gyda ieithoedd eraill, ac yn enwedig Saesneg. Mae’n rhaid inni gydnabod hynny. Pan rydw i’n gweld fy mhlant yn gwneud gwaith cartref, maen nhw’n edrych ar y we ac mae byd y we yn fyd Saesneg ei iaith, wrth gwrs. Mae’n rhaid inni sicrhau bod yna Gymraeg yno. Mae’r farchnad dechnolegol yn un fyd-eang. Wrth lunio achosion busnes, mae cwmnïau mawr yn ffafrio ieithoedd gyda nifer fawr o siaradwyr wrth flaenoriaethu a dewis pa ieithoedd i’w cefnogi. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Mae hyn yn meddwl ei bod yn anodd i’r Gymraeg allu cystadlu am sylw ambell waith.

Nid wyf yn meddwl bod yna unrhyw anghytundeb: ni fyddai neb wedi dychmygu Siri Apple, Amazon Echo neu Google Home. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn darllen yr enwau yma ac nid wyf cweit yn deall bob tro beth ydyn nhw. Pan ges i fy ethol i’r lle yma 10 mlynedd yn ôl, pe bai rhywun wedi dweud bod Siri yn mynd i wneud cyflwyniad fan hyn heddiw, ni fuaswn i ddim wedi deall beth oedden nhw’n sôn amdano. Ar hyn o bryd, dim ond dwy iaith—Saesneg ac Almaeneg—mae Amazon Echo yn eu deall. Mae Siri yn gallu deall, ‘apparently’, rhyw 20 o ieithoedd gwahanol, ond nid yw’r Gymraeg yn un ohonyn nhw eto, fel rydym wedi gweld y prynhawn yma. Maen nhw ar werth heddiw ac mae yna deuluoedd Cymraeg yn byw gydag Amazon Echo yn eu cartrefi. Mae’n rhaid i ni sicrhau, pan rydym yn gweld y teganau newydd yma, eu bod nhw yn gallu siarad Cymraeg a deall y Gymraeg, achos dyna sut rydym ni yn mynd i sicrhau y bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith y cartref lle mae teuluoedd yn siarad ac yn defnyddio y Gymraeg.

Ond rydym yn gwybod hefyd bod 65 y cant o bobl yn y byd yn siarad mwy nag un iaith, a rhai yn amlieithog. Fel gwlad ddwyieithog, mae gennym ni gyfle ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gallu gweithredu hyn fel mantais economaidd i ni yng Nghymru, nid jest yn fantais ddiwylliannol, ieithyddol i Gymru, ond mantais economaidd i ni hefyd. Sut ydym ni yn gallu sicrhau bod diwydiannau technolegol y dyfodol yn elwa o’n profiad ni o fod yn wlad ddwyieithog fan hyn yng Nghymru? Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni yn datblygu adnoddau digidol dwyieithog yn y Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn gallu gwneud yr un peth gydag ieithoedd eraill. Unwaith rydym wedi dysgu sut rydym yn gallu defnyddio y ddwy iaith—yr iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg—rwy’n siŵr y byddwn ni yn gallu defnyddio ieithoedd gwahanol hefyd i ddangos bod yna ffyrdd gwahanol o wneud elw economaidd o ble rydym ni.

Rwy’n gobeithio ac yn tybio ein bod ni’n gallu datblygu achos economaidd dros fuddsoddi mewn seilwaith technolegol iaith ar raddfa fawr: technoleg llais-i-destun Cymraeg a’r gallu i gyfieithu gyda pheiriannau. Tra ein bod ni yn teipio mewn i ffurflenni heddiw, byddwn yn siarad gyda theclynnau fwyfwy yn y dyfodol. Mae llais-i-destun, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial Cymraeg—mae hynny’n dest i mi—yn mynd i fod yn hanfodol ar gyfer y dyfodol, ac mae’r Llywodraeth yma yn deall hynny. Ond rydym hefyd yn deall nad oes gan y Llywodraeth yr atebion i gyd, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth gydweithio gyda’r sefydliadau rydych chi wedi sôn amdanynt, fel Canolfan Bedwyr ym Mangor. Fe siaradais i mewn cynhadledd ym Mangor rai misoedd yn ôl. Rwy’n gwerthfawrogi’r math o allu sydd gennym ni, nid jest ym Mangor, ond yng Nghymru. Pan ges i’r cyfle yng Nghaeredin i siarad gydag arbenigwyr yn fanna hefyd, roeddwn i’n dysgu bod angen y math hwnnw o arbenigrwydd arnyn nhw hefyd. Felly, mae’n bosibl creu rhwydwaith wahanol a sicrhau bod y gallu a’r arbenigrwydd sydd gyda ni yn rhywbeth rydym yn gallu cydweithio gyda phobl arno, nid jest fan hyn, ond ar draws Prydain a mannau eraill hefyd.

Mae profiad y Cynulliad Cenedlaethol o ddefnyddio Microsoft Translator i gyfieithu’r Cofnod o’r naill iaith i’r llall yn dangos potensial cyfieithu peirianyddol ar gyfer y dyfodol. Sut ydym ni’n gallu adeiladu ar yr arfer da hwn? Mae yna gyfle i ieithoedd y byd gydweithio—y Gymraeg, Basgeg, Catalaneg, Gwyddeleg ac yn y blaen—i rannu adnoddau. Byddaf yn ymweld â Gwlad y Basg mewn cwpwl o wythnosau i ddysgu sut maen nhw yn gweithredu yn y ddwy iaith sydd ganddyn nhw, a beth sydd gennym ni i’w ddysgu gan Lywodraeth Gwlad y Basg i sicrhau ein bod ni yn cydweithio gyda’n gilydd ac i sicrhau bod y ddau ohonom ni yn ychwanegu at yr adnoddau sydd gennym ni i greu rhyw ‘critical mass’ o allu a phrofiad. Mae angen edrych ar y ffordd mae technoleg yn dod â chymunedau at ei gilydd a mynd â’r Gymraeg i leoedd newydd a chreu cymunedau o ddiddordeb—o Microsoft Cymraeg i gymunedau o ddysgwyr byd-eang. Mae gennym ni gyfle i wneud hyn, cyfle nad ydym erioed wedi ei gael o’r blaen.

Mae technoleg yn galluogi pobl i ddysgu Cymraeg mewn ffyrdd newydd. Er enghraifft, mae’r ganolfan dysgu Cymraeg wedi bod yn gweithio’n agos iawn yn ddiweddar gyda Duolingo, sef ap y mae llawer sy’n dysgu’r iaith yn ei ddefnyddio. I ddweud y gwir, mae dros hanner miliwn o bobl wedi cofrestru i ddefnyddio Duolingo Cymraeg, ac fe ges i’r cyfle i brofi hynny yn ystod Eisteddfod yr Urdd rai wythnosau yn ôl. Ond nid hwn yw’r unig wasanaeth ar-lein o’r fath chwaith. Mae Say Something in Welsh hefyd yn cynnig gwasanaeth tebyg i ddysgwyr ers rhai blynyddoedd. Felly, mae yna gyfle i ehangu’r Gymraeg, i ddyfnhau’r profiad o ddefnyddio’r Gymraeg, a sicrhau lle i’r Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar iawn, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi bod yn gwneud y gwaith yma gyda’r arian rydym ni wedi gallu ei roi yn y blynyddoedd diwethaf. Mae rhai datblygiadau wedi cychwyn, ond hefyd, ni allwn ddim cystadlu gyda rhai o gwmnïau mawr y byd o ran maint y buddsoddiad. Felly, maen rhaid i ni ffeindio ffyrdd gwahanol o fuddsoddi yn y dyfodol.

Wrth ddatblygu technoleg newydd, sut ydym ni’n blaenoriaethu? Rwy’n meddwl bod gennym ni rôl fel Llywodraeth i fuddsoddi, ac rwy’n benderfynol o wario’r arian, yr amser a’r egni sydd gyda ni yn y ffordd orau posib. Dyna pam rwyf wedi creu grŵp o arbenigwyr, y bwrdd technoleg Cymraeg—pobl gyda phrofiad o dechnoleg Cymraeg—er mwyn cael cyngor i symud y maes yn ei flaen. Mi gawson ni gyfarfod arbennig o dda yn y llyfrgell genedlaethol yn Aberystwyth yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn falch iawn i weld y math o allu sydd gyda ni yn y byd Cymraeg i sicrhau bod gyda ni gyfle i fuddsoddi ein meddyliau ni a’n creadigedd ni yn y prosiect yma ar gyfer y dyfodol. Rwy’n gwybod hefyd bod nifer o bobl yn gwneud gwaith pwysig. Maen bwysig ein bod ni’n parhau i fuddsoddi, a’r sialens yw i sicrhau bod yr holl ymdrechion yma yn dod at ei gilydd.

Rwyf hefyd fel Gweinidog yn hapus iawn i ddefnyddio dylanwad y Llywodraeth i sicrhau ein bod ni’n dwyn perswâd ar gwmnïau technoleg mawr i ddefnyddio’r Gymraeg, a byddwn yn gwneud hynny hefyd. Mae’r maes digidol yn gyfle i feddwl yn wahanol ac i arloesi. Mae’n rhaid creu seilwaith gadarn digidol, ac mae’n rhan ganolog a phwysig o greu cadarnle i’r iaith ar gyfer y dyfodol. Dirprwy Lywydd, rwy’n hollol sicr, os ydyn ni’n cydweithio gyda’n gilydd, yn cydweithio gyda’r Llywodraeth, ac Aelodau o bob un rhan o’r Senedd yma, a gweithio gyda sefydliadau cenedlaethol, bod gennym ni gyfle i sicrhau lle i’r Gymraeg yn y dyfodol, a lle i arwain ar gyfer y Gymraeg ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr.