<p>Carchar Newydd ym Maglan</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, bydd y carchar ei hun yn creu 500 o swyddi lleol ac yn cynhyrchu £11 miliwn mewn refeniw i’r economi leol. A gaf i dawelu meddwl fy nghyd-Aelod, fel rhywun sydd â charchar yn ei etholaeth, ac a oedd yn gynghorydd ward pryd yr oedd y carchar yn cael ei adeiladu yn fy ward i ar y pryd, bod pryderon ar y pryd, heb os, ond na wireddwyd y pryderon hynny? Ni wnaethom ni golli buddsoddiad. Yn wir, mae ystad o dai newydd sbon yn cael ei hadeiladu bron hyd at derfyn y carchar ar hyn o bryd, ac mae'r tai hynny’n cael eu gwerthu. Felly, er ei bod yn anochel y bydd gan bobl bryderon am rywbeth newydd yn yr ardal, yr hyn yr ydym ni’n ei wybod nid yn unig o Ben-y-bont ar Ogwr, ond o fannau eraill yng Nghymru, yw bod carchardai yn creu swyddi ac, yn y pen draw, wrth gwrs, nid ydynt yn cael effaith negyddol ar yr economi leol na’r dref leol.