2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2017.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â lleoli carchar newydd ym Maglan? OAQ(5)0702(FM)
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cael trafodaethau gyda Gweinidog carchardai y DU ynghylch y safle arfaethedig ar gyfer datblygu carchar newydd ym Maglan, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn cael trafodaethau parhaus gyda swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch y cynnig.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'r safle a nodwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac wedi ei leoli y drws nesaf i ystad o dai, cartref gofal preswyl, canolfan adnoddau meddyg teulu, â phedwar o feddygfeydd ynddi, a busnesau eraill ar yr ystad ddiwydiannol honno. Mae hefyd wedi ei leoli yn yr ardal fenter, a sefydlwyd pan godwyd y bygythiad i Tata y llynedd, gyda'r bwriad o dyfu a buddsoddi mewn busnesau. Nawr, nid wyf yn credu y byddai carchar yn annog hynny mewn gwirionedd. I’r busnesau hyn dyfu, maen nhw eisiau mwy o le. Mae angen unedau mwy o 10,000 troedfedd sgwâr a mwy arnynt. Rwyf wedi cyfarfod â busnesau lleol ac maen nhw’n awyddus i dyfu, maen nhw’n awyddus i aros, ond os byddan nhw’n gweld carchar yn dod, gan niweidio eu cyfleoedd ar gyfer twf, maen nhw wedi dweud wrthyf i y byddan nhw’n gadael Port Talbot a hyd yn oed Cymru o bosibl. A wnaiff Llywodraeth Cymru wrthod unrhyw gais gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder am y tir hwnnw, a buddsoddi yn hytrach mewn adeiladu’r unedau hyn, a all eu galluogi i dyfu, ac ymrwymo ei hun i hynny fel y mae wedi ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru?
Wel, bydd y carchar ei hun yn creu 500 o swyddi lleol ac yn cynhyrchu £11 miliwn mewn refeniw i’r economi leol. A gaf i dawelu meddwl fy nghyd-Aelod, fel rhywun sydd â charchar yn ei etholaeth, ac a oedd yn gynghorydd ward pryd yr oedd y carchar yn cael ei adeiladu yn fy ward i ar y pryd, bod pryderon ar y pryd, heb os, ond na wireddwyd y pryderon hynny? Ni wnaethom ni golli buddsoddiad. Yn wir, mae ystad o dai newydd sbon yn cael ei hadeiladu bron hyd at derfyn y carchar ar hyn o bryd, ac mae'r tai hynny’n cael eu gwerthu. Felly, er ei bod yn anochel y bydd gan bobl bryderon am rywbeth newydd yn yr ardal, yr hyn yr ydym ni’n ei wybod nid yn unig o Ben-y-bont ar Ogwr, ond o fannau eraill yng Nghymru, yw bod carchardai yn creu swyddi ac, yn y pen draw, wrth gwrs, nid ydynt yn cael effaith negyddol ar yr economi leol na’r dref leol.
Yn dilyn ymlaen o’r thema honno, yr wythnos diwethaf, mewn cwestiwn a ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais, ‘Pam wnaethoch chi ganiatáu i’r tir gael ei ystyried ar gyfer ei ddefnyddio fel carchar?', Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a dyfynnaf
'mae’r Aelod yn anghywir yn honni bod gennyf ddewis o ran mater y tir parthed y carchar.'
A wnewch chi egluro hyn os gwelwch yn dda? A wnaethoch chi gynnig y darn hwnnw o dir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ei ystyried? Os na wnaethoch chi, sut y daeth hi i’r sefyllfa fod darn o dir Llywodraeth Cymru yn cael ei ystyried yn y lle cyntaf? Os yw wedi ei glustnodi ar gyfer defnydd posibl arall, pam nad yw wedi cael ei glustnodi ar gyfer y defnydd hwnnw cyn hyn, ar gyfer busnesau lleol, fel y mae David Rees wedi ei ddweud, ac a allwch chi gadarnhau y byddech chi’n ystyried dewisiadau eraill o ran y lleoliad penodol hwn? Hoffwn i ofyn i chi hefyd: rwyf wedi cael e-bost gan aelod o staff yng ngharchar Caerdydd, a ddywedodd fod y staff eisoes yn cael gwybod bod carchar Caerdydd yn mynd i gael ei gau ar gyfer datblygiad siopa, a bod y carchar Abertawe yn mynd i gael ei gau hefyd. A allwch chi gadarnhau hyn, neu a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am hyn?
Na, nid ydym wedi cael sgyrsiau o’r math yna. Os yw’r e-bost hwnnw ganddi a’i bod yn teimlo y gall ei rannu, byddwn yn falch iawn o’i weld. Nid wyf yn siŵr a yw hi’n gwrthwynebu’r carchar, neu a oes ganddi gwestiynau eraill, ond, o'n safbwynt ni, rydym ni’n gwybod y gall y carchar gynhyrchu, fel y dywedais, 500 o swyddi, ac rwy’n siarad fel rhywun sydd â charchar yn fy etholaeth. Ni chafodd unrhyw effaith niweidiol o gwbl ar yr ardal gyfagos, nac ar dref Pen-y-bont ar Ogwr yn wir, nac yn wir ar fuddsoddiad. Rydym ni’n gwybod bod angen carchar—bod angen carchar modern arall yn y de. Does dim dianc rhag hynny, ond, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig gweithio gyda phobl a busnesau lleol er mwyn rhoi sicrwydd iddynt, yn seiliedig ar yr hyn yr wyf i wedi ei weld â'm llygaid fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Prif Weinidog, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi nodi y bydd yn cynnal digwyddiad deuddydd ym Mhort Talbot er mwyn ennyn barn pobl ar y carchar newydd cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol. Er bod hyn i’w groesawu, mae angen ymgynghoriad cyhoeddus mwy cyflawn ar y cynigion arnom. Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ymgynghoriad cyhoeddus manylach, a pha ran fydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae wrth geisio barn trigolion ar y carchar newydd?
Wel, yn y pen draw, mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r penderfyniad terfynol ar union leoliad unrhyw garchar, ac nid i Lywodraeth Cymru. Mae'n fater nawr, wrth gwrs, i Lywodraeth y DU wneud cais am ganiatâd cynllunio. Mae o fudd i Lywodraeth y DU sicrhau y ceir ymgynghoriad llawn yn lleol—ni allwch roi gormod o wybodaeth i bobl. Rwy’n cofio’r hyn a ddigwyddodd ym 1995-96, pan adeiladwyd carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd gan bobl lawer o gwestiynau, ac ymdriniwyd â’r cwestiynau hynny trwy ymgynghoriad cyhoeddus. Ac, wrth gwrs, rydym ni’n gweld ein hunain 20 mlynedd yn ddiweddarach—nid heb drafferthion cychwynnol, mae’n rhaid i mi ddweud, pan agorwyd y carchar agorwyd—ond, 20 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r carchar yn cael ei dderbyn fel bod yn rhan o'r gymuned, ac mae wedi creu cannoedd o swyddi.