Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Ydw, yn sicr. Mae'r amser wedi dod i gael gwared ar gap cyflogau’r sector cyhoeddus. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gweithwyr sector cyhoeddus yn cael eu talu'n briodol am y gwaith y maen nhw’n ei wneud. Nid wyf yn derbyn bod rhyw fath o gyfyngiadau ariannol ar waith yma, o ystyried y ffaith y daethpwyd o hyd i £1 biliwn yn rhan o’r cil-dwrn i Ogledd Iwerddon. Os gellir dod o hyd iddo i Ogledd Iwerddon, gellir dod o hyd i’r arian i’n gweithwyr sector cyhoeddus.