2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2017.
2. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gydnabod yr heriau ychwanegol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig o ran dyrannu cyllid llywodraeth leol? OAQ(5)0697(FM)
Caiff yr arian craidd a roddir i awdurdodau lleol Cymru bob blwyddyn ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol. Cytunir ar y fformiwla gyda llywodraeth leol trwy gyngor partneriaeth Cymru, ac mae'n cymryd amrywiaeth eang o ffactorau i ystyriaeth.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Fel y gwyddoch, mae canran fawr o arwynebedd Cymru yn wledig. Rwy’n dal yn arbennig o bryderus nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd yn ddigon pell o ran cydnabod y natur wledig yn ei chyllid ar gyfer awdurdodau lleol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae darparu gwasanaethau fel gofal cymdeithasol mewn lleoliad gwledig bob amser yn mynd i wynebu costau ychwanegol o'i gymharu ag awdurdod trefol, ac mae'r un peth yn wir am wasanaethau eraill a ddarperir gan gynghorau hefyd. A wnewch chi ymrwymo i ailystyried y fformiwla ariannu llywodraeth leol i weld a ellir neilltuo mwy o bwysoli ar gyfer natur wledig dros y blynyddoedd sydd i ddod?
Wel, os edrychwch chi ar y—os caf i ddefnyddio’r gair—'rancio', ar gyfer awdurdodau lleol, dyraniad Sir Ddinbych yw'r pedwerydd uchaf, Gwynedd yw’r nawfed, Sir Gaerfyrddin yw’r degfed, Ceredigion yw’r pedwerydd ar ddeg, Powys yw’r pymthegfed, a Sir Benfro yw’r ail ar bymtheg. Mewn cymhariaeth, Abertawe yw’r unfed ar bymtheg, Sir y Fflint yw’r pedwerydd ar bymtheg, a Caerdydd yw’r ugeinfed. Mae'n ymddangos i mi bod natur wledig yn cael ei chymryd i ystyriaeth. A’r gwir yw, wrth gwrs, ei fod yn fater i awdurdodau lleol gytuno ymhlith ei gilydd sut y maen nhw’n dymuno i'r fformiwla ariannu gael ei threfnu, yn hytrach nag un awdurdod yn dymuno ei newid heb gymorth eraill.
Rydym ni i gyd yn gwybod, Prif Weinidog, mai'r unig ffordd y gallwch chi ddarparu unrhyw wasanaeth cyhoeddus yw drwy’r staff. A chyhoeddwyd tystiolaeth yr wythnos hon bod torri a rhewi cyflogau sector cyhoeddus dros y degawd diwethaf yn golygu, erbyn hyn, bod cyflog athrawon wedi gostwng £3 yr awr, swyddogion yr heddlu £2 yr awr, ac nid yw cyflogau nyrsys wedi symud o gwbl. A chanlyniad hynny ar hyn o bryd, yn y proffesiwn nyrsio yn arbennig, yw ein bod ni bellach wedi gweld 51 y cant yn gadael y gwasanaeth sector cyhoeddus hwnnw yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Felly, a ydych chi’n cytuno â mi, Prif Weinidog, fod cam y Torïaid o rewi cyflogau'r sector cyhoeddus yn peryglu darpariaeth ein gwasanaethau cyhoeddus erbyn hyn?
Ydw, yn sicr. Mae'r amser wedi dod i gael gwared ar gap cyflogau’r sector cyhoeddus. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gweithwyr sector cyhoeddus yn cael eu talu'n briodol am y gwaith y maen nhw’n ei wneud. Nid wyf yn derbyn bod rhyw fath o gyfyngiadau ariannol ar waith yma, o ystyried y ffaith y daethpwyd o hyd i £1 biliwn yn rhan o’r cil-dwrn i Ogledd Iwerddon. Os gellir dod o hyd iddo i Ogledd Iwerddon, gellir dod o hyd i’r arian i’n gweithwyr sector cyhoeddus.
Wel, un o’r heriau penodol mewn ardaloedd gwledig yw delio â phobl mewn oed, a henoed â dementia—wel, pobl sydd ddim yn henoed hefyd, â dementia, a dweud y gwir. Mae hon yn her a ddaeth yn amlwg iawn yn ystod yr etholiad cyffredinol diweddar, wrth gwrs. Nawr, mae hyn yn cael ei grisialu yn y drafodaeth sy’n digwydd ar hyn o bryd ynglŷn â dyfodol cartref Bodlondeb yn Aberystwyth, sy’n gwasanaethu gogledd Ceredigion, a’r canolbarth i raddau. Ac mae’n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymuno â mi i ddweud bod yr ymgynghoriad wedi dechrau ond ddydd Llun, a dweud y gwir, felly mae’n rhaid i bawb leisio eu barn nawr fel rhan o’r ymgynghoriad yna. Ond a fydd y Llywodraeth hefyd, drwy’r Gweinidog efallai, yn trafod â Chyngor Sir Ceredigion, yn enwedig rai o’r posibiliadau newydd sydd gan y Llywodraeth ei hunan, megis gwelyau ‘extra care’, neu gartrefi ‘extra care’, i weld a oes posibiliad i ffitio beth sy’n digwydd yn nyfodol Bodlondeb yn rhan o’r patrwm ehangach sy’n gwasanaethu canolbarth Cymru?
Wel, wrth gwrs, mater i Geredigion yw hwn. Fe wnes i sôn am Bodlondeb yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon. Ond, wrth gwrs, fel Llywodraeth, rydym ni’n hollol hapus i weithio gydag awdurdodau lleol, i weld pa fath o ffyrdd eraill sydd ar gael i weithredu gwasanaethau yn eu hardaloedd nhw. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn iawn am Geredigion, ac yn iawn am bob awdurdod arall.
Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi, ddoe, cynllun datblygu economaidd ar gyfer Cymru wledig. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.'] Diolch yn fawr iawn. Pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi i mi y bydd yr argymhellion a gymeradwywyd gan grŵp o arbenigwyr o gefn gwlad Cymru yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y strategaeth economaidd newydd i Gymru?
A gaf i ddiolch i fy ffrind, Eluned Morgan, am y gwaith y mae hi wedi ei wneud, a'r diddordeb mawr y mae hi'n ei gymryd mewn cymunedau gwledig ledled Cymru? Rydym ni’n gwybod y bydd Cymru wledig yn wynebu heriau yn enwedig o ran Brexit. Rydym ni’n croesawu, fel Llywodraeth, cyhoeddi'r adroddiad, a bydd yn ffurfio rhan o'r strategaeth sydd gennym i gyflawni ymhellach ar ran Cymru wledig yn ystod y blynyddoedd nesaf, ar ôl Brexit.