Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Wel, wrth gwrs, mater i Geredigion yw hwn. Fe wnes i sôn am Bodlondeb yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon. Ond, wrth gwrs, fel Llywodraeth, rydym ni’n hollol hapus i weithio gydag awdurdodau lleol, i weld pa fath o ffyrdd eraill sydd ar gael i weithredu gwasanaethau yn eu hardaloedd nhw. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn iawn am Geredigion, ac yn iawn am bob awdurdod arall.