<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:53, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n deall y pwynt hwnnw’n llwyr ac roedd hynny, wrth gwrs, wedi ei gynnwys yn y datganiad gwreiddiol. Ond mae'r syniad, ar gyfer prosiect a fyddai'n cael ei ariannu'n breifat am gost o £375 miliwn, gwarant ar ran Llywodraeth Cymru a fyddai'n cwmpasu llai na hanner hynny y gellid ei roi ar lyfrau Llywodraeth Cymru fel prosiect sector cyhoeddus yn gyfan gwbl yn amlwg yn hurt. Ac felly, mae’n rhaid bod ffordd drwy hyn. Ni fyddai gwarant Llywodraeth Cymru byth yn cael ei alw amdano ymlaen llaw beth bynnag o dan delerau'r cytundeb, gan ei fod yn swm blynyddol y byddai'r Llywodraeth yn gorfod ei dalu. Y sefyllfa waethaf fyddai bod yr asedau yn cael eu hadeiladu ac na fyddai’r trac rasio ei hun yn gwneud ceiniog o elw er mwyn talu'r llog i'r buddsoddwyr—Aviva yn yr achos penodol hwn. Yna, byddai galw blynyddol ar y Llywodraeth i dalu’r elfen honno o'r warant iddyn nhw. Ni fydd byth alwad arnoch i ddarparu £210 miliwn mewn un cyfandaliad, ac mae'r warant £8 miliwn yn y sefyllfa waethaf wedi ei amorteiddio dros gyfnod o 35 mlynedd. Mae'n gwbl afresymol y dylid defnyddio’r confensiynau cyfrifyddu Llywodraeth hyn i rwystro prosiect a fyddai'n llwyr weddnewid de-ddwyrain Cymru gyfan. Does bosib na ddylai Llywodraeth Cymru ymestyn ei hun a gwneud pob ymdrech posibl i geisio dod o hyd i ffordd drwy hyn.