Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Ond nid yn rhy uchel, yn ôl pob tebyg, i gonsurio £100 miliwn allan o'r boced gefn mewn ymateb i'r methiant hwn. Ac, os yw'n bosibl dod o hyd i £100 miliwn ymlaen llaw, i bob pwrpas, nawr, pam mae’n amhosibl dod o hyd i £8 miliwn y flwyddyn, ymhen tair blynedd, am y 30 mlynedd ganlynol? Does bosib—ailadroddaf y cwestiwn—gydag owns o ddychymyg, mae’n rhaid bod ffordd drwy hyn. A byddai gan Lywodraeth Cymru gefnogaeth unedig, rwy’n credu, yr holl bleidiau yn y Cynulliad hwn y tu ôl iddi i wneud i’r prosiect hwn lwyddo. Does bosib nad yw’r wobr yn rhy fawr i roi'r gorau iddi ar y cam hwn.