<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Cyfrifoldeb y gylchffordd yw cyflwyno unrhyw gynnig newydd, nid Llywodraeth Cymru. Nid cynllun Llywodraeth Cymru yw hwn. Rhoddwyd amodau i’r gylchffordd yr oedd yn rhaid iddynt eu bodloni ac ni wnaethant fodloni'r amodau hynny pan edrychwyd ar y diwydrwydd dyladwy. Mae'n dweud ei fod yn £100 miliwn allan o'r boced gefn; mae'n £100 miliwn dros 10 mlynedd. Felly, nid £100 miliwn yn sydyn yn ystod un flwyddyn. Dyna'r ymrwymiad a wnawn i Lynebwy i ddod â'r swyddi i'r parc technoleg, ac rydym ni’n ffyddiog, ar ôl siarad â busnesau, y bydd y parc technoleg hwnnw yn llwyddiant.