Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Mae llawer o bwyslais ar gydweithio rhwng cynghorau ar lefel ranbarthol ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth, ‘Cadernid ac adnewyddiad’. Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld pedair sir y gorllewin yn cydweithio yn strategol ar faterion sy’n unigryw i’r gorllewin ac sy’n codi o’r plethiad hanfodol hwnnw sydd yna rhwng yr economi wledig, tai, cynllunio a’r iaith Gymraeg. Fe ellir ehangu ar hynny i greu rhanbarth neu gynulliad y gorllewin a fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r dinas-ranbarthau. Fel y mae Eluned Morgan yn nodi, mae angen i’r Llywodraeth yma gefnogi cefn gwlad Cymru, ond nid creu comisiynydd newydd ydy’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hynny, yn fy marn i. A ydych chi’n cytuno bod annog cydweithio rhwng siroedd y gorllewin yn cynnig ateb cychwynnol cost-effeithiol, ymarferol a synhwyrol?