Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Ydw, ac mae’n hollbwysig, wrth gwrs, fod hynny yn digwydd, a nod y Mesur yw sicrhau—a Mesur yw’r gair yr ydym ni’n dal i’w ddefnyddio, wrth gwrs, Llywydd—a nod y Mesur yw sicrhau bod hynny’n digwydd. Rydym ni’n gwybod, wrth edrych ar y model sydd wedi bod yna yn addysg, sef y consortia yn addysg, fod pethau wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn lle mae awdurdodau lleol wedi gweithio gyda’i gilydd. Dyna, wrth gwrs, rydym ni’n moyn adeiladu arno wrth edrych ar y ddeddfwriaeth.