2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2017.
5. Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr? OAQ(5)0710(FM)[W]
Rydym ni’n cefnogi camau gweithredu penodol wrth inni drosglwyddo i economi carbon isel, er enghraifft defnyddio ynni adnewyddadwy a chynyddu ailgylchu. Rydym ni hefyd yn sefydlu’r fframwaith tymor hirach ar gyfer cwrdd â’n targed cyfreithiol yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sef lleihad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn y flwyddyn 2050.
Diolch, Brif Weinidog. Byddwch chi’n gwybod bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig newydd gyhoeddi adroddiad yr wythnos diwethaf yn cloriannu perfformiad y Deyrnas Unedig a’r cenhedloedd datganoledig yn erbyn eu targedau amgylcheddol ac yn nodi gwelliannau yng Nghymru yn y sectorau gwastraff a diwydiannol, ond yn nodi cynnydd mewn allyriadau o adeiladau busnes, anheddau ac yn y sector drafnidiaeth. Ar sail y perfformiad hwn, maen nhw’n dweud y bydd yn debygol na fydd Cymru yn cyrraedd y targed o 40 y cant llai o allyriadau erbyn 2020 a bod angen gweithredu ar fyrder. A ydy’r Llywodraeth yn derbyn yr asesiad hwnnw a pha gamau penodol fydd y Llywodraeth yn eu cymryd ar sail adroddiad y pwyllgor?
Ydym. Wrth gwrs, ffynhonnell fwyaf allyriadau yw’r sector ynni ei hunan. So, felly, beth sydd eisiau ei sicrhau yw bod mwy o ynni adnewyddadwy ar gael, er enghraifft y lagŵn—y lagŵn ym mae Abertawe. Byddai hwnnw yn gwneud gwahaniaeth mawr, nid dim ond i’r amgylchedd ond hefyd, wrth gwrs, drwy greu swyddi yng Nghymru. Felly, rydym ni’n dal i aros i weld beth fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei benderfynu ynglŷn â’r lagŵn hwnnw.
Prif Weinidog, canfu adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 'Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru’ bod 1 y cant o'r holl orchudd coed i’w ganfod mewn ardaloedd dwysedd uchel o dai, a nododd adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun ar reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru bod cynyddu gorchudd coed yn allweddol i wella llesiant cyffredinol, i leihau nwyon tŷ gwydr ac i wella ansawdd yr aer. A ydych chi yn ymrwymedig i weld cynnydd sylweddol i faint o goetir trefol sydd gennym ni?
Ydw. Mae pobl yn croesawu coetir. Maen nhw’n croesawu coetir llydanddail yn arbennig. Rwy’n cofio, yn fy nyddiau fel y Gweinidog materion gwledig, mai un o'r materion a oedd yn arfer ysgogi pobl oedd llwyrgwympo a'r hyn yr oeddent yn ei weld fel y creithiau a oedd yn cael eu gadael ar lethrau mynyddoedd o ganlyniad. Rydym ni’n gwybod bod mwy o waith i'w wneud o ran cynyddu faint o orchudd coed sydd yng Nghymru, ac rydym ni’n gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i hwyluso hynny.
Er ei fod e’n wir beth mae’r Prif Weinidog yn ei ddweud ynglŷn â’r diwydiannau trwm ac ynni yng Nghymru, mae hefyd yn wir i ddweud bod cyflwr gwael ein tai ni yn ychwanegu at allyriadau carbon a hefyd y drafnidiaeth gythryblus sydd gyda ni yng Nghymru. A’r ffaith drist amdani yw, beth bynnag sydd gyda ni fel targedau, mae mwy o allyriadau carbon fesul y pen yng Nghymru nawr nag oedd 10 mlynedd yn ôl, ac maent wedi gostwng yn Lloegr a’r Alban. Mae’r arfau yn eich dwylo chi: yn y Ddeddf amgylchedd, rydych chi’n gosod allan y byddwch chi’n sicrhau cyllido carbon—y gyllideb garbon, felly. Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd yn rhaid ichi baratoi honno. A fyddwch chi’n rhoi ymrwymiad, felly, y bydd y gyllideb garbon gyntaf gan y Llywodraeth yn gosod allan sut y byddwch chi’n lleihau allyriadau carbon?
Wel, un peth y gallaf i ddweud wrth yr Aelod yw nad ydym ni’n mynd i ailystyried y targed hwnnw. Y ffocws nawr yw sicrhau bod yna weithredu ar y targed hwnnw ac, wrth gwrs, i ystyried pa reoliadau sydd eu heisiau er mwyn sicrhau hynny. Ynglŷn â fel yr ydym ni’n symud hwn ymlaen, wrth gwrs rydym ni’n moyn sicrhau ein bod ni’n symud ymlaen gyda rheoliadau ynglŷn â chyllidebau carbon. Mae’n rhaid inni, wrth gwrs, ystyried beth yw’r lefelau iawn ar gyfer gwneud hynny, ac, wrth gwrs, bydd y lefelau hynny yn cael eu sefydlu ar dystiolaeth sydd yn dod o’r corff ymgynghori.