Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Un o'r materion a godwyd gan yr adroddiad oedd y darlun amrywiol, anghyson a chymhleth o addysgu cyflenwi. Roeddwn yn falch o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn pob un o'r 10 argymhelliad, er iddi gydnabod bod yn rhaid bod yn ofalus wrth reoleiddio safonau asiantaethau cyflenwi masnachol. Mae gennyf i etholwr sy'n athrawes gyflenwi sydd wedi ysgrifennu ataf, ac mae hi'n dweud wrthyf ei bod hi’n cael ei chyflogi drwy asiantaeth sy'n didynnu traean o'i chyflog cyn iddi fynd ag ef adref. Mae hi hefyd yn teimlo y dylai athrawon cyflenwi gael eu recriwtio a'u cyflogi gan awdurdodau lleol a/neu gan gonsortia. Dyna ei barn hi. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod y Llywodraeth, fel y mae ef wedi ei nodi, yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hyn ac y bydd yn bwrw ymlaen â nhw’n fuan? Ond hefyd, beth ellir ei wneud o ran rheoleiddio asiantaethau a sicrhau parch cydradd rhwng athrawon cyflenwi a'u cymheiriaid llawn amser?