2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2017.
7. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i weithredu argymhellion Adroddiad y Tasglu Model Cyflenwi Gweinidogol a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror 2017? OAQ(5)0703(FM)
Mae gweithgor wedi ei sefydlu i fwrw ymlaen â'r argymhellion a geir yn adroddiad y tasglu. Mae hynny'n cynnwys cefnogaeth i gyfleoedd dysgu proffesiynol athrawon cyflenwi a newydd gymhwyso, a datblygu rhaglen i gefnogi ac adeiladu capasiti yn y system trwy drefniadau clwstwr ysgolion.
Un o'r materion a godwyd gan yr adroddiad oedd y darlun amrywiol, anghyson a chymhleth o addysgu cyflenwi. Roeddwn yn falch o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn pob un o'r 10 argymhelliad, er iddi gydnabod bod yn rhaid bod yn ofalus wrth reoleiddio safonau asiantaethau cyflenwi masnachol. Mae gennyf i etholwr sy'n athrawes gyflenwi sydd wedi ysgrifennu ataf, ac mae hi'n dweud wrthyf ei bod hi’n cael ei chyflogi drwy asiantaeth sy'n didynnu traean o'i chyflog cyn iddi fynd ag ef adref. Mae hi hefyd yn teimlo y dylai athrawon cyflenwi gael eu recriwtio a'u cyflogi gan awdurdodau lleol a/neu gan gonsortia. Dyna ei barn hi. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod y Llywodraeth, fel y mae ef wedi ei nodi, yn bwrw ymlaen â'r argymhellion hyn ac y bydd yn bwrw ymlaen â nhw’n fuan? Ond hefyd, beth ellir ei wneud o ran rheoleiddio asiantaethau a sicrhau parch cydradd rhwng athrawon cyflenwi a'u cymheiriaid llawn amser?
Bydd hyn yn dod yn haws pan fydd tâl ac amodau athrawon wedi eu datganoli, ond mae'n iawn i ddweud bod—. Rwyf wedi ei glywed fy hun yn fy etholaeth fy hun am bobl yn cwyno am y ffioedd asiantaeth sy'n cael eu talu. Nid oes unrhyw ofyniad, cyn belled ag y gallaf i weld, sy’n golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol fynd drwy asiantaeth; dim ond eu bod nhw’n dewis mynd drwy asiantaeth. Ac nid yw’n ofynnol ychwaith iddyn nhw fynd drwy asiantaeth benodol, ac nid oes rhaid i benaethiaid ysgolion wneud hynny ychwaith, o reidrwydd. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig bod awdurdodau lleol yn edrych ar y ffordd y mae athrawon cyflenwi yn cael eu darparu yn eu hardaloedd, er bod hwn yn fater, yn fy marn i, i benaethiaid ysgol, yn hytrach nag awdurdodau lleol, i wneud yn siŵr bod penaethiaid ysgol eu hunain yn deall bod dewisiadau ar gael iddyn nhw wrth recriwtio staff cyflenwi.
A all y Prif Weinidog roi sicrwydd na fydd unrhyw ysgol sydd â model llwyddiannus o athrawon cyflenwi ar eu cyfer nhw yn gweld disodli hwnnw gan fodel o'r brig i lawr a roddir ar waith ar draws pob ysgol, boed hynny yng Nghymru neu gan awdurdod lleol?
Mae'n rhaid iddo fod yn deg, wrth gwrs, i'r athrawon cyflenwi. Bydd model llwyddiannus yn un lle mae staff addysgu ar gael i ysgol, ond lle mae staff addysgu yn cael eu trin yn deg hefyd. Dyna, i mi, yw model llwyddiannus. Lle mae’r modelau hynny'n bodoli, ymddengys nad oes unrhyw reswm i’w newid.
Un o’r siomedigaethau, rwy’n credu, pan wnaeth ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, oedd nad oedd y Llywodraeth ar y pryd yn gallu rhoi arweiniad ynglŷn â’r ddau argymhelliad a oedd yn mynd yn fwyaf pellgyrhaeddol o ran rhoi ateb i’r sefyllfa—hynny yw, rheoleiddio’r sector breifat, fel yr oedd Hefin David yn cyfeirio ato fe, o ran gwella safonau, ond hefyd creu system ranbarthol ar gyfer cyflogi yn uniongyrchol. Mi oedd y Llywodraeth wedi addo dod nôl ag ymateb ar ôl i ragor o waith gael ei wneud ar y ddau bwynt yna. A ydy’r Llywodraeth mewn pryd i gyhoeddi yr ymateb hwnnw nawr?
Ynglŷn â’r ‘footprint’ rhanbarthol, rŷm ni’n symud ymlaen gyda hynny—gallaf i gadarnhau hynny—er mwyn sicrhau bod hynny’n digwydd. Ynglŷn â delio â busnesau yn y sector breifat, wrth gwrs, mae yna faterion sydd yn croesi i mewn i ardal sydd heb ei datganoli. Felly, ar hyn o bryd rŷm ni’n ystyried pa mor bell gallwn ni fynd.
Diolch i’r Prif Weinidog.