<p>Adroddiad y Tasglu Model Cyflenwi Gweinidogol</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:15, 4 Gorffennaf 2017

Un o’r siomedigaethau, rwy’n credu, pan wnaeth ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, oedd nad oedd y Llywodraeth ar y pryd yn gallu rhoi arweiniad ynglŷn â’r ddau argymhelliad a oedd yn mynd yn fwyaf pellgyrhaeddol o ran rhoi ateb i’r sefyllfa—hynny yw, rheoleiddio’r sector breifat, fel yr oedd Hefin David yn cyfeirio ato fe, o ran gwella safonau, ond hefyd creu system ranbarthol ar gyfer cyflogi yn uniongyrchol. Mi oedd y Llywodraeth wedi addo dod nôl ag ymateb ar ôl i ragor o waith gael ei wneud ar y ddau bwynt yna. A ydy’r Llywodraeth mewn pryd i gyhoeddi yr ymateb hwnnw nawr?