Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Cwestiynau defnyddiol iawn gan yr Aelod heddiw, ac rwy’n diolch iddi am ei sylwadau, yn enwedig ynghylch y gwasanaethau tân ac achub a'u gallu i weithredu ar y materion y mae hi wedi eu codi.
A gaf i yn gyntaf oll roi sylw i’r mater ynglŷn â phrofi a phrofi yn y sector preifat? Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r unigolion yn y lle cyntaf, ac yna rhoddir canllawiau iddyn nhw am yr hyn yr ydym ni’n disgwyl y bydd yn digwydd. Rwyf eto i ddod o hyd i asiant nad yw'n dymuno cydymffurfio â'r broses honno, ond mae'n ddyddiau cynnar, ac rwy’n disgwyl y gall fod un neu ddau a all fod eisiau gwthio’r ffiniau—os mai dyna maen nhw’n ceisio ei wneud. Ond mae yna rymoedd yn Neddf Adeiladu 1984. Felly, o dan Ddeddf Tai 2004, mewn ymateb i nodi perygl, mae gan yr awdurdod lleol amryw o ddewisiadau gorfodi. Mae cymryd camau adfer argyfwng dan adran 40 a gwneud gorchymyn gwahardd brys o dan adran 43 i wahardd y defnydd o'r eiddo i gyd yn gamau y mae modd i awdurdodau lleol eu gweithredu os ydyn nhw’n dymuno, yn ychwanegol at y gwasanaeth tân gyda’u hasesiadau risg ynglŷn â diogelwch tân a hysbysiadau gwahardd hefyd. Felly, rydym ni’n credu bod digon o rymoedd i fynd i’r afael â'r mater unwaith y byddwn wedi nodi diffyg cydymffurfio yn y system, os mai dyna fydd yn digwydd. Ond ni allaf weld unrhyw reswm pam na fyddai person yn dymuno ceisio sicrhau bod eu hadeilad yn ddiogel.
Mae cyfnodau rheolaidd ar gyfer profion archwilio diogelwch tân, a'r gwasanaeth tân sy’n cadw’r data ar hynny. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod a rhoi copi yn llyfrgell o’r broses fanwl o ran y gwiriadau a’r rheoliadau diogelwch tân ar gyfer adeiladau o'r math hwn fel bod yr Aelod yn hyderus gyda’r ymateb, a hefyd gall Aelodau eraill weld hynny.