4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell

– Senedd Cymru am 2:38 pm ar 4 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:38, 4 Gorffennaf 2017

Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell. Ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Carl Sargeant.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Llywydd, diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, landlordiaid, a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru, yng ngoleuni trychineb Tŵr Grenfell. Rwyf wedi ymrwymo i roi’r diweddaraf i’r Aelodau am ein gweithredoedd, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn cytuno nad yw hwn yn fater plaid wleidyddol, ond yn un sy’n destun pryder i bob un ohonom ni, ac wrth gwrs, mewn llawer o achosion, i’n hetholwyr. Yn unol â hynny, rhoddais grynodeb i lefarwyr y gwrthbleidiau y bore yma, a byddaf yn diweddaru’r Aelodau yn rheolaidd wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Llywydd, ein blaenoriaeth ar unwaith, ar gyfer Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol ill dau, oedd sicrhau nad oedd y cladin Reynobond penodol a oedd yn gysylltiedig â Thŵr Grenfell wedi ei osod ar flociau tŵr uchel yng Nghymru. Nodais yr wythnos diwethaf na ddaethpwyd o hyd i unrhyw gladin o'r math hwn. Symudodd ein ffocws at y deunydd cyfansawdd alwminiwm, ACM, yn gyffredinol, a nodwyd hwn mewn saith bloc. Mae'r cladin wedi cael ei brofi. Yn amlwg, mae'r sefyllfa yn gofyn am gydweithredu agos gan ystod o asiantaethau a gwasanaethau. Diogelwch preswylwyr a thawelwch meddwl yw'r flaenoriaeth uchaf ar gyfer yr holl sefydliadau sy'n ymwneud â'r mater hwn, ac rwyf yn falch o ddweud ein bod yn gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol. Ynghyd ag eraill, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i ymateb mewn ffordd bwyllog a chytbwys sy'n cydnabod pwysigrwydd diogelwch a thawelwch meddwl tenantiaid.

Daeth Joyce Watson i’r Gadair.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:38, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Er mwyn deall profiadau'r rhai sy'n byw yn yr eiddo sydd wedi eu heffeithio, fe ymwelais i ddoe â thenantiaid yn Abertawe, lle cefais rai trafodaethau cadarnhaol a diddorol iawn, a fydd yn ddefnyddiol wrth ddylanwadu ar y ffordd rydym ni’n gweithio wrth inni symud ymlaen. Roeddwn i’n gallu esbonio'r hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y blociau tŵr uchel yn ddiogel. Roeddwn i’n gallu clywed gan denantiaid, o lygad y ffynnon, beth yw eu pryderon o ran diogelwch y deunydd cladin, ac roedden nhw’n glir iawn eu bod yn gwerthfawrogi'r cyngor a ddarparwyd gan y landlordiaid.

Rwyf, yn naturiol, yn awyddus i fynd i’r afael â phryderon dealladwy y tenantiaid cyn gynted ag y bo modd. Mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn gweithredu ar sail y cyngor proffesiynol gorau posibl. Mae ein gwasanaethau tân ac achub rhagorol yn parhau i weithio’n agos iawn ac yn cefnogi landlordiaid ac yn sicrhau y caiff popeth priodol a rhesymol ei wneud i ddiogelu tenantiaid. Mae eu ffordd broffesiynol a phwyllog o reoli risg a diogelwch tân yn hanfodol. Yn wir, rwy’n credu bod yr unig achos o orfod gwagio adeiladau ers hynny yn Lloegr, yn ystad Chalcots, yn ganlyniad archwiliad ar y cyd o’r ystad gan Frigâd Tân Llundain a phenderfyniad bod angen gwagio rhai o’r blociau am gyfnod dros dro.

Rwy'n falch o ddweud bod Abertawe wedi gweithredu cyfres gynhwysfawr o fesurau yn dilyn canlyniadau eu profion. Mae'r cam hwn yn cyfateb yn llwyr i ganllawiau yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol, a ddiweddarwyd ar 22 Mehefin. Mae hyn yn nodi mesurau lliniaru i’w gweithredu, fel y bo'n briodol, yn ddi-oed, lle penderfynir bod deunyddiau inswleiddio o fewn cladin ACM yn annhebygol o fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu presennol. Mae'r mesurau yn amrywio o wirio statws risg tân—ac yn achos Abertawe, cynhaliwyd asesiad yn ddiweddar iawn—a sicrhau bod preswylwyr yn llwyr ddeall gweithdrefnau tân mewn argyfwng, yn enwedig ystyr 'aros yn eu hunfan', i weithredu mesurau ataliol yn effeithiol, sy’n cynnwys gwirio cydymffurfiaeth inswleiddio neu ddeunyddiau eraill sy'n ffurfio wyneb yr adeilad.

Mae'r awdurdod lleol mewn cysylltiad rheolaidd â'r trigolion ac mae ganddo wardeniaid tân ar y safle i roi sicrwydd i denantiaid. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadarnhau iddo gynnal archwiliadau diogelwch tân yn Clyne Court yn Sgeti a Jeffreys Court ym Mhenlan ar 21 Mehefin eleni. Cafwyd bod y trefniadau diogelwch tân yn foddhaol yn unol â gofynion Gorchymyn 2005 Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân), lle bo’n berthnasol. Yn yr un modd, mae ystod lawn o fesurau rheoli risg a lliniaru yn eu lle yng Nghasnewydd—unwaith eto, yn unol â chanllawiau yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Yn fwy cyffredinol, rydym ni’n parhau i fod mewn cysylltiad agos, unwaith eto, â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos ac yn gweithio gydag Abertawe a Chasnewydd, a’r holl awdurdodau lleol eraill yr effeithiwyd arnynt, wrth i grŵp arbenigwyr y DU ryddhau arweiniad a chyngor pellach. Rwyf hefyd wedi sefydlu grŵp cynghori diogelwch tân yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Des Tidbury, fy Mhrif Ymgynghorydd Tân ac Achub ac Arolygydd Cymru. Bydd y grŵp yn cyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos hon. Er mwyn sicrhau cysondeb a chyfathrebu effeithiol, mae angen perthynas gref ac effeithiol rhwng y ddau grŵp, felly rwyf wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol fod Des Tidbury yn eistedd fel aelod o grŵp arbenigwyr y DU hefyd. Rwy’n disgwyl clywed ei ymateb yn fuan.

Fel yr esboniais, mae ein prif ffocws wedi bod, a bydd yn parhau i fod am y tro, ar flociau tŵr uchel yn y sector tai cymdeithasol. Rydym ni, fodd bynnag, bellach yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i nodi pob bloc aml-lawr preswyl yn y sector preifat. Rydym yn gweithio i sicrhau y gallwn adnabod rhydd-ddeiliaid ac asiantau rheoli y blociau hyn a rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddyn nhw, yn unol â'r hyn yr ydym wedi ei ddarparu i'r sector tai cymdeithasol. Rwy’n disgwyl, pan fydd perchennog yn nodi bod cladin ACM ar adeilad aml-lawr preswyl, neu yn wir y tybir felly, y byddant yn anfon samplau i'w profi ac yn cymryd yr un camau gofal ychwanegol ag y mae landlordiaid tai cymdeithasol wedi eu cymryd.

Mae’r holl weithgarwch hwn, sy’n anelu at sicrhau y gallwn ni wella mesurau diogelwch a rhoi sicrwydd, ond yn digwydd gyda chefnogaeth a chydweithrediad lawn ein partneriaid ym mhob man. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrech barhaus. Fel y dywedais i ar y dechrau, mae hwn yn fater sy'n datblygu’n gyflym, a byddaf yn sicrhau y caiff Aelodau eu hysbysu a’u diweddaru’n llawn. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:44, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i groesawu’r datganiad hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet a diolch iddo am y crynodeb a roddodd i lefarwyr y gwrthbleidiau y bore yma a'r addewid o grynodebau pellach ganddo ef a'i swyddogion? Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn cael gwybod y diweddaraf, fel y dywedodd, am sefyllfa sy'n newid yn gyflym. A alla i ofyn iddo, o ran yr asesiadau uniongyrchol sydd wedi eu gwneud, pa gasgliadau y daethpwyd iddyn nhw am swyddogaeth lleoedd ceudod, a oedd, yn ôl a ddeallaf, yn allweddol yn y drychineb ofnadwy yn Nhŵr Grenfell? Dyma lle mae bwlch, yn amlwg, rhwng y cladin a phrif strwythur y bloc tŵr, ac mae hyn yn gyfystyr â risg allweddol. Oes yna leoedd ceudod tebyg yn y blociau tŵr yng Nghymru sydd wedi eu harchwilio? O dan ba amgylchiadau y byddai'r Gweinidog yn cynghori landlordiaid cymdeithasol i gael gwared ar y cladin? Rwy’n deall y gallai fod perygl, os caiff cladin ei symud yn unig, y gellid datgelu deunydd mwy peryglus a fflamadwy fyth oddi tano. A oes amgylchiadau, felly, lle mae'r Gweinidog yn rhagweld adleoli fel dewis os nad oes modd rhoi sicrwydd uniongyrchol o ddiogelwch? Dywedwyd wrthyf hefyd bod y deunydd cladin ar Dŵr Grenfell ac—nid wyf yn gwybod, ond rwyf yn tybio— y deunyddiau cladin eraill sy'n bresennol yng Nghymru, mai un o'r anawsterau gyda nhw yw eu bod wedi'u cynllunio i weithredu fel sgriniau glaw. Yn anffodus golyga hyn, pan fydd y gwasanaeth tân yn ceisio rheoli a diffodd tanau, eu bod nhw’n llawer llai effeithiol yn y camau y maent yn eu cymryd gan eu bod yn gwrthsefyll dŵr. Yn amlwg, mae cyfyngu a diffodd tanau yn allweddol i allu cyffredinol yr adeiladau hyn i wrthsefyll tân. A oes unrhyw wahaniaeth yn y deunydd cladin sy’n gweithredu fel sgrin yng Nghymru, fel sy’n ymddangos yn wir yn Llundain?

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o flociau tŵr yn y sector preifat neu yn adeiladau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai. Sut caiff yr adeiladau hyn eu hasesu? Oes ganddo unrhyw wybodaeth bellach i'r Cynulliad y prynhawn yma ynglŷn â’r agwedd hon o’r her? Yn olaf, sut mae'r canfyddiadau diweddaraf a'r cyngor sy'n seiliedig ar y canfyddiadau hyn yn cael eu lledaenu i denantiaid mewn ffordd y gellir eu defnyddio, gan dawelu meddyliau ac mewn modd eglur, i landlordiaid preifat a chwmnïau rheoli sy'n rhedeg nifer o flociau preifat o fflatiau, a hefyd i'r rhai sy'n rhedeg ysgolion ac ysbytai? Diolch, Cadeirydd.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:48, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich cwestiynau, David Melding. Llywydd, os caf i—mae nifer o gwestiynau yma. Yn gyntaf oll, ynghylch mannau ceudod, mae’r Aelod yn codi materion sy'n ymwneud â hynny. Byddwn yn amharod i gynnig barn ar hynny cyn yr ymchwiliad cyhoeddus ynglŷn â hynny. Rwy’n credu bod sawl agwedd ar Dŵr Grenfell yr ymddengys iddynt fod yn ffactorau arwyddocaol a gyfranodd at fethiant y system dân, boed hynny'n fethiannau yn rhaniadau’r adeilad neu ar y tu allan , ond ni fyddwn yn hoffi rhagdybio hynny. Wrth gwrs, os oedd manau ceudod yn rhan o'r broses honno, yna mae angen inni edrych ar hynny’n ofalus iawn yn y cyngor a gawn ni.

O ran y cladin a'r cyngor o ran adleoli, a rhoi cyngor i gael gwared ar gladin, rwy'n cymryd y cyngor gan y grŵp cynghori annibynnol o'r DU—yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae'r rhain yn bobl broffesiynol, ac nid wyf yn credu bod hwn yn benderfyniad gwleidyddol. Dylai hyn fod yn seiliedig ar dystiolaeth a'u cyngor. Os ydyn nhw’n awgrymu mai cael gwared ar y cladin yw'r dewis gorau, yna byddwn yn mynd ati i gael gwared ar y cladin a byddwn yn siarad am y goblygiadau ariannol ar ôl hynny. Ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud hefyd y gall dim ond cael gwared ar gladin alwminiwm adeilad beri risg pellach drwy ddatgelu'r broses inswleiddio. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn bwyllog yn y prosesau yr ydym ni am eu gweithredu os ydym am wneud hynny. Hefyd, mae a wnelo â’r ffaith fod y profion wedi eu cynnal ar ran o gyfansoddyn yr uned. Felly, dim ond sampl i weld a oedd y sylwedd yn y sampl yn fflamadwy neu hylosg, er fy mod yn meddwl bod a wnelo’r camau nesaf y dylem ni o bosib fod yn edrych arnyn nhw â’r system yn ei chyfanrwydd o ran a allwn ni brofi system gyfan er mwyn gweld a yw'r panel yn ddiogel ac yn cydymffurfio â safonau Prydeinig ac â'r rheoliadau, fel y tybiwyd pan gafodd ei osod. Rwy'n credu mai dyna’r camau nesaf y gallwn ni fod yn symud tuag atyn nhw—gan roi hyder i'r bobl sy'n byw yn yr adeiladau hynny bod y gwasanaethau tân wedi gwirio ac yn parhau i weithio gyda thenantiaid yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw i roi sicrwydd iddyn nhw ynghylch goblygiadau diogelwch y systemau tân sydd ar waith.

O ran Tŵr Grenfell, unwaith eto, fe gododd yr Aelod faterion ynghylch rheoliadau adeiladu. Hoffwn i hefyd nodi bod angen pwyll o ran, unwaith eto, deall gwir effeithiau profion. Ar hyn o bryd, rydym ni’n ymwybodol bod cladin wedi ei osod ar ein hadeiladau a bod hwnnw’n cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Felly os yw'r rheoliadau adeiladu yn anghywir, yna mae'n rhaid i ni gael adolygiad o hynny. Mae gen i gyfarfod eto gyda Lesley Griffiths i gael y manylion, ond rwyf hefyd yn gwrando ar y panel cynghori i gael eu barn nhw am hyn.

Ynglŷn ag adeiladau eraill—adeiladau addysg iechyd a chyhoeddus eraill, rhai hamdden a stadiymau— rydym wedi dechrau ar y gwaith o ofyn am adborth gan bob un o'r asiantaethau perthnasol. Rwyf wedi ysgrifennu at fy holl gydweithwyr yn y Cabinet. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i holi ynglŷn ag adeiladau ysgol ac adeiladau eraill y Brifysgol. Fy mhrif bryder o ran asesiad sail risg, yn gyntaf oll, yw’r blociau fflatiau aml-lawr, ac yna rwy’n credu bod angen canolbwyntio ar y lle mae pobl yn treulio’r nosweithiau, yn coginio, ac felly mae angen rhoi blaenoriaeth uchel i lety myfyrwyr i wneud yn siŵr ein bod yn gwbl sicr ynghylch y mecanweithiau diogelwch ar gyfer y rheini.

Yr elfen arall o ddiddordeb yw o ran y sector preifat, sydd ychydig yn fwy anodd eu nodi. Ac rwy’n gweithio gydag adran Ken Skates yn edrych ar y cysylltiadau sydd gennym ni gyda landlordiaid y sector preifat a chwmnïau mwy o faint, ond hefyd ar gyfer tîm Rhentu Doeth Cymru, gyda chofrestru landlordiaid, i ddefnyddio'r data mewn cysylltiad â hynny i gysylltu â phobl ynglŷn â rheoli eiddo eto. Mae gennym ni rymoedd ymyrryd, ond mae gan awdurdodau eraill lawer o rymoedd o ran diffyg cydymffurfio. Felly, pe na bai landlord preifat yn cydymffurfio â phrofion sampl ac ati, yna gallai’r awdurdod lleol, neu'r gwasanaeth tân, yn wir, ofyn am hynny a’i gwneud yn ofynnol gyda hysbysiadau gwahardd. Felly, mae gennym ni bethau yn eu lle yn amodol ar yr angen i wneud hynny.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:52, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedwch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig cael eglurder o ran yr union beth sy'n cael ei brofi. Os mai dim ond oddeutu’r 4mm o’r cladin allanol sy’n cael ei anfon i'w brofi, yna nid yw hynny’n amlwg yn cynnwys system wal allanol yr adeilad ehangach. Felly, rwy’n cydnabod yr hyn a ddywedwch chi o ran efallai symud ymlaen i gynnal profion ehangach a mwy cynhwysfawr a sylweddol. Felly, tybed allwch chi egluro beth yw'r broses o wneud hynny. Mae gennych chi eich panel allanol, ond, ar hyn o bryd, yn amlwg, Llywodraeth y DU a'r BRE sy'n cynnal y profion. Felly, a fyddech chi o bosib yn awgrymu hynny, ar sail cynghor eich panel allanol, a mater i Lywodraeth y DU fyddai hi wedyn i ddod i benderfyniad?

Ac a fydd hi’n bosibl ystyried y technegau adeiladu a’r mesurau diogelwch unigryw sydd ym mhob adeilad, oherwydd rwy’n gwybod fod rhai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn teimlo bod hynny yn gwbl hanfodol? Felly, er enghraifft, lle mae systemau ar waith sy'n cynnwys rhwystrau tân, fel y byddai deunyddiau ar bob llawr yn y siafft awyru rhwng yr inswleiddio a'r cladin allanol, petai’r rhwystrau tân hynny yn eu lle a fyddai’n ehangu yn achos tân i selio, fel petai, yr effaith simnai fel y’i gelwir, yna gallai hynny yn wir fod yn rhywbeth i’w ystyried o ran diogelwch cyffredinol y systemau waliau allanol hynny. Felly, rwy’n teimlo bod diffyg eglurder ym meddyliau llawr o bobl, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran yr union beth sy'n cael ei brofi, ynghylch ai dyna’r prawf gorau sy’n gallu mewn gwirionedd roi darlun o'r mesurau diogelwch sydd ar waith, a rhoi sicrwydd angenrheidiol i breswylwyr.

Y cwestiwn arall yr hoffwn i ei ofyn yw hyn: a fyddwch chi’n parhau i weithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, ac eraill, i wneud yn siŵr y caiff tenantiaid eu cynnwys fel bo’n briodol, ac y byddwch yn cyfathrebu’n iawn â nhw i sicrhau diogelwch, ond hefyd i roi sicrwydd angenrheidiol? Achos rwy’n credu, beth bynnag yw ein barn am ddigwyddiadau diweddar, bydd hi wastad yn wir y bydd angen cynnwys trigolion a chyfathrebu â thrigolion os ydym mewn gwirionedd yn mynd i gael y systemau diogelwch gorau ac, yn wir, sicrwydd priodol.

Ac yn olaf, rwy'n siŵr y byddech yn ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i annog y cyfryngau i ymdrin yn gyfrifol â'r materion hyn, gan fy mod yn gwybod, unwaith eto, fod pryder ymhlith landlordiaid cofrestredig cymdeithasol yng Nghymru ac, yn wir, ymhlith tenantiaid nad yw adroddiadau rhai o’r cyfryngau yn gwneud unrhyw les i’n helpu i sicrhau’r diogelwch a’r sicrwydd angenrheidiol hwnnw.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:56, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i John Griffiths am ei gwestiynau. Byddaf yn cymryd ei bwynt olaf yn gyntaf ac, rwy’n credu, ei bwynt mwyaf perthnasol, mewn gwirionedd. Y bobl y mae angen i ni feddwl amdanyn nhw yn fwy na neb arall yma yw trigolion y blociau hyn, ac mae’n rhaid i i ni roi sylw i hynny uwchlaw popeth arall. Rhaid gwneud yn siŵr bod yna ddiogelwch gwirioneddol ond hefyd bod y canfyddiad o ddiogelwch yn cael sylw o ran eu barn nhw. Ni fyddaf yn gwneud datganiad i'r Siambr hon cyn hysbysu trigolion o’r materion. Nid wyf yn credu ei bod hi’n deg i’r cyfryngau godi pryderon di-angen ymysg trigolion, a’r landlordiaid ddylai wastad gysylltu â nhw’n gyntaf, ac yna byddaf i, wrth gwrs, yn rhoi gwybod i'r Cynulliad beth mae’r landlordiaid wedi ei wneud.

Gofynnodd yr Aelod gwestiynau ynglŷn â dau faes. Yn gyntaf oll, y sefyllfa o ran y sampl. Roedd y sampl yn seiliedig ar ofynion cyngor yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol a chyfleusterau profi’r BRE, ac maen nhw wedi bod yn gyson. Fodd bynnag, yr hyn sy’n gyson am y samplau yw eu bod nhw i gyd wedi methu. Mae hyn yn dangos i mi bod y cwestiwn yn codi ynglŷn â beth yn union yr ydym yn ei brofi yma, a chredaf mai hynny a’m harweiniodd i ddeall yr hyn y mae'r panel bellach yn ei ystyried ynglŷn ag a yw hi’n bwysig profi’r system i gyd. Mae’r Aelod yn codi mater pwysig iawn, sef bod y rhan fwyaf o'r adeiladau yn unigryw iawn yn eu harddull adeiladu a’r nodweddion diogelwch tân sydd ganddyn nhw. Felly, mae'n rhaid ystyried hynny hefyd. Dyna pam y dywedais yn gynharach wrth David Melding, o ran Tŵr Grenfell, fy mod yn credu bod nifer o faterion wedi effeithio ar ddifrifoldeb y tân yno, nid dim ond yr elfen gladin o hyn, ac mae'r posibilrwydd fod rheoliadau tân eraill wedi eu torri wrth edrych ar y system yn ei chyfanrwydd yn rhywbeth y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohono. Y gyfatebiaeth syml iawn yw—. Yn yr un modd ag y mae profion yn cael eu cynnal, rydym ni’n gwybod bod elfennau fflamadwy a hylosg yn y sampl bychan a gafodd ei brofi, ond, o edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, efallai na fyddai hynny’n broblem. Yn yr un modd ag yr ydym ni’n gyrru car gydag wyth galwyn o betrol ynddo, ac, ar ei ben ei hun, mae petrol yn fflamadwy ac yn beryglus iawn, ond, o edrych ar y system yn ei chyfanrwydd, mae'n ddiogel gyrru cerbyd. Gallai hyn fod yn union yr un fath gyda’r deunydd cyfansawdd o fewn strwythur wrth ystyried y system yn ei chyfanrwydd. Felly, rydym ni’n aros am gyngor gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol ar hynny, ac os ceir cyngor i brofi’r system ymhellach, dyna beth wnawn ni. Os na chawn ni gyngor o’r fath, ac mai’r cyngor yw 'Mae hyn yn beryglus, mae angen cael gwared arno’, byddwn yn dilyn y cyngor hwnnw hefyd.

Nid wyf yn gwneud, fel y dywedais, unrhyw benderfyniadau gwleidyddol ar hyn; mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth yr arbenigwyr, a byddaf yn dibynnu arnyn nhw i roi i mi, ynghyd â hyder i drigolion, y prosesau sydd eu hangen. Ond byddaf yn diweddaru’r Aelod ynglŷn â’r materion sy'n cael eu codi gyda mi yn feunyddiol.

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:59, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i godi mater gwestai, yn arbennig, gyda chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i mi a ydych chi wedi, neu a ydych chi’n barod i ystyried newid rheoliadau i wahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwesty dynodedig. Mae etholwr wedi codi'r mater hwn gyda mi dros gyfnod helaeth o amser. Yn un peth, mae 'na broblem diogelwch, ond, yn ail, y tu hwnt i’r datganiad hwn heddiw, wrth gwrs, mae’r mater o aros yn yr ystafell honno ar ôl rhywun sydd wedi bod yn ysmygu yno. Rwy’n gwerthfawrogi bod hynny y tu hwnt i ddatganiad heddiw. Mae etholwyr eraill hefyd wedi tynnu sylw at nifer o enghreifftiau o dorri rheoliadau tân yn ystod y chwe mis diwethaf, felly ymddengys yn amser priodol i godi hyn gyda chi heddiw. Felly, y ddau fater yw: un, gwahardd ysmygu mewn ystafelloedd gwesty dynodedig; a’ch barn am drefn arolygu well, yn enwedig mewn gwestai.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn codi dau bwynt diddorol. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth i’w ystyried yn y dyfodol o ran, yn y lle cyntaf, ysmygu mewn ystafelloedd gwesty yn gyffredinol. Y mater arall am reoleiddio gwestai yw hyn: credaf mai’r hyn sy'n bwysig yma yw nad ydym yn cael ein gwthio i mewn i ymdeimlad ffug o ansicrwydd a gwneud rhywbeth am y rheswm anghywir. Mae'n rhaid iddo fod yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd. A allaf roi sicrwydd i chi? Siaradais â'r prif swyddog tân ddoe a dywedodd wrthyf mai’r peth olaf mae arnom ni eisiau ei wneud yma yw dweud wrth bobl nad yw hi’n ddiogel byw mewn blociau tŵr, oherwydd nid yw hynny’n wir. Cyn belled â bod yr holl weithdrefnau yn eu lle, gyda rhwystrau tân ac arolygiadau diogelwch tân—nad ydyn nhw’n cael eu torri; eu bod nhw i gyd yn gyfan—mae blociau tŵr yn fannau diogel i fyw ynddynt. Mae’n dweud bod Grenfell wedi amlygu rhai materion dilys y mae angen mynd i'r afael â nhw mewn cysylltiad â chyfundrefnau arolygu ac ati.

Mae gosodiadau yn fater arall a grybwyllwyd i mi heddiw gan Dawn Bowden, mewn gwirionedd—ynglŷn â sut y gall gosodiadau rhai darparwyr gwasanaeth effeithio ar allu rhai o’r unedau panel hyn i atal tân rhag lledaenu drwy ddrilio ac ati, a gosod erialau neu ddysglau. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n mynd i’w ddwyn i sylw tîm rheoleiddio Lesley Griffiths, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw hynny’n broblem. Ac os yw’n broblem, mae angen rheoleiddio ynghylch hynny. Felly, mae hyn wedi codi materion eto, ond yr egwyddor gyffredinol yw hyn: yn gyffredinol, mae blociau tŵr yn ddiogel, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cladin sydd wedi ei osod ar yr adeiladau hyn—naill ai ei fod yn addas at y diben, neu nad ydyw, ac rydym ni’n dysgu am hynny bob dydd.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 3:01, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cyfarfod ochr yn ochr â David Melding y bore ‘ma. Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfer tai—er na fyddech chi’n sylweddoli hynny heddiw—roedd arna i eisiau dweud, mewn cysylltiad â'ch pwynt ynghylch nad yw hyn yn wleidyddol, rwy’n llwyr gytuno. Ond credaf y dylai'r Llywodraeth ddisgwyl i Aelodau Cynulliad o bob plaid allu craffu’n effeithiol, a bod hynny'n rhan o'n swyddogaeth ni wrth wneud hynny. Ac felly hefyd gyda’r cyfryngau: nid wyf yn credu ei bod yn briodol i ni fynegi safbwynt ynglŷn â’r hyn y mae’r cyfryngau yn ei wneud. Byddwn yn dawelach fy meddwl pe gallech ddweud wrth y tenantiaid a'r landlordiaid cyn iddo fynd at y cyfryngau, yna ni fyddai unrhyw broblem gyda nhw’n dod i wybod yn y ffordd honno. Yn wir, byddwn yn cymryd yn ganiataol y byddech chi’n gallu siarad â phawb sy'n gysylltiedig cyn i unrhyw un o'r cyfryngau allu siarad â thenantiaid.

Roedd arna i i eisiau gofyn, o ran y berthynas sydd gennych chi â'r gwasanaeth tân— fe wnaethoch chi sôn eu bod wedi rhoi mesurau lliniaru ar waith, fel marsialiaid tân ac yn y blaen. Hoffwn i gael sicrwydd gennych chi, yn ysgrifenedig, o bosibl, a ydyn nhw wedi dweud eu bod yn gyfforddus â'r trefniant presennol, ac felly’n gyfforddus â'r ffaith nad yw'r cladin yn cael ei symud, ond y bydd y mesurau lliniaru y byddant yn eu gweithredu yn lle hynny yn mynd i fod yn ddigon cadarn i sicrhau bod tenantiaid yn ddiogel os oes perygl yn y fflatiau hynny. Rwy'n credu bod angen i ni i gyd i fod yn sicr o hynny yma heddiw.

O ran diogelwch tân hefyd, mae angen sicrwydd arnaf bod capasiti yn y system i’r gwasanaeth tân ac achub allu ymdrin â hyn. Felly, er enghraifft, os yw panel y DU yn cynghori bod angen mesurau interim ar y cladin, a oes gennym ni ddigon o gymhwysedd yn y system yma i’r awdurdodau hynny roi camau gweithredu ar waith? Fe gyfeirioch chi at y ffaith y byddai panel ymgynghorol y DU o bosib yn argymell profion system gyfan, yn hytrach na phrofi sampl o gladin. A allwch chi egluro beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol, ac a fyddwch chi’n mabwysiadu profion fel hyn yma yng Nghymru, neu efallai nad chi fydd yn penderfynu, ond byddant yn rhan o broses samplo ar draws y DU?

Diolch i chi am roi’r wybodaeth i ni o ran cael y diweddaraf gan gyrff eraill. Rydw i'n awyddus i ddeall sut y byddwch chi'n casglu’r holl wybodaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, fel y gall Aelodau Cynulliad fod yn sicr y bydd yr holl wybodaeth mewn un lleoliad canolog. Rwyf wedi cael gwybod gan rai ACau Plaid Cymru eu bod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i wybodaeth gan fwrdd iechyd Hywel Dda ynghylch yr hyn sy'n digwydd gyda'r profion y maen nhw wedi eu gwneud ar eu systemau. Pe gallem ni gael rhywfaint o eglurhad, byddai hynny'n dda.

Fe ddywedasoch y byddech chi’n cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol mewn cysylltiad â landlordiaid preifat. Ydych chi’n fodlon fod hyn yn ddigon, a pha rymoedd sydd gennych chi i ymyrryd os na fyddant yn croesawu’r rhain?

O ran—fy nghwestiwn olaf—rheoliadau adeiladu, os yw panel ymgynghorol y DU yn cadarnhau y caiff profion cladin eu cynnal i ofyniad diogelwch uwch na'r hyn sy’n ofynnol o dan reoliadau adeiladu a diogelwch tân yng Nghymru ar hyn o bryd, a ydych chi’n cytuno y gallai hyn olygu edrych yn ehangach ar reoliadau adeiladu a diogelwch tân? Sut fyddwch chi’n penderfynu a ddylid craffu’n fanylach ar yr agwedd honno ar y sefyllfa? Deallaf o dan Ddeddf newydd Llywodraeth Cymru y bydd gennych chi rymoedd dros reoliadau adeiladu fel Llywodraeth yn y dyfodol, ar wahân i Ystad y Goron, yn anffodus, a fydd yn cynnwys meysydd awyr, porthladdoedd llongau a gorsafoedd ynni niwclear—a fydd yn faterion heb eu datganoli. Felly, sut y byddwch chi’n gallu rheoleiddio neu ddeddfu yn y maes hwn os nad oes gennych chi’r holl offer y gall fod ei angen arnoch chi yn y dyfodol?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:05, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich cwestiynau. Yn gyntaf oll, rwy’n gyfforddus iawn gyda'r gwaith craffu yr ydych chi neu unrhyw Aelod arall yn ei wneud yn y Siambr ar y mater hwn. Rwy’n glir iawn fy mod yn credu na ddylai hyn fod yn bleidiol; mae'n ymwneud ag etholwyr y mae gennym ni i gyd gysylltiad â nhw ac â sicrhau bod diogelwch hyn yn hollbwysig. Felly, does dim ots gennyf am y craffu mewn unrhyw fodd.

A gaf i ddweud, mewn ateb i fanylion penodol ynglŷn â’r gwasanaeth tân, fy mod i wedi siarad ar sawl achlysur ag uwch swyddogion yn fy nhîm? Rydw i’n cyfathrebu gyda nhw’n rheolaidd, ochr yn ochr â'r landlordiaid hefyd. Mae cyngor Abertawe, o'u gwirfodd, wedi cyflwyno marsialiaid tân 24/7 yn y blociau hynny o fflatiau, ac mae hyn yn seiliedig ar gyngor gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Mae Abertawe a Chasnewydd yn gweithredu popeth a argymhellwyd gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol—naill ai wedi eu gweithredu neu yn eu gweithredu yn y broses honno, ac maen nhw’n gweithio ochr yn ochr â'r gwasanaeth tân i gyflawni hynny.

Byddaf yn edrych i weld a allaf grynhoi’r trafodaethau a gawsom ni drwy ysgrifennu at yr Aelod. Rwy'n ymwybodol o hynny. Byddwn yn gobeithio bod fy ngair yn ddigon da heddiw i’r Siambr, ond rwyf hefyd yn parchu o bosib fod yr Aelod yn dymuno gweld hynny yn ysgrifenedig, a byddaf yn edrych i weld a alla i ymateb iddi ar y ffurf honno.

Rwy’n ymwybodol fod y gwasanaeth tân yn iawn o ran capasiti. Maen nhw wedi dweud wrthyf unwaith eto—dyma un o'r cwestiynau oedd gen i yn y drafodaeth gyda nhw am y gallu i ddarparu adnoddau mewn cysylltiad â’r mater hwn—nad oes yna unrhyw broblem. Yn wir, roedden nhw’n rhagweithiol iawn yn sicrhau eu bod yn mynd i ddefnyddio staff, ochr yn ochr â staff yr awdurdod lleol neu staff landlordiaid, i weithio gyda thenantiaid, i roi hyder iddyn nhw. Rwy'n credu bod pobl yn ymddiried llawer mwy ynddyn nhw na mewn gwleidyddion sy’n dweud wrth bawb y bydd popeth yn iawn. Pan fo’r gwasanaeth tân yn dweud hynny, rwy'n credu bod pobl yn ymddiried llawer mwy yn hynny.

Dim ond eglurhad i'r Aelod, pan soniais i am y sefyllfa ynglŷn â phrofi ac yna am brofi system yn ei chyfanrwydd—nid fy mhenderfyniad i yw hyn. Bydd hyn yn seiliedig ar gyngor gan grŵp yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Os ydyn nhw’n dewis cynnal profion panel llawn yn hytrach na phrofion sampl, yna, wrth gwrs, dyna’r sefyllfa ddelfrydol, hefyd. Rwy'n credu bod hynny’n rhoi, mewn gwirionedd, ganlyniad mwy cywir o effeithiau diogelwch tân ar adeilad pan fyddwch chi’n profi system gyfan. Ond os nad ydyn nhw’n argymell hynny ac yn argymell rhywbeth arall, yna byddaf hefyd yn dewis y llwybr hwnnw. Ni fyddaf yn gwneud penderfyniad ar wahân i argymhellion grŵp cynghori’r Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol. Mae'r rhain yn arbenigwyr diogelwch tân, a byddaf yn gwrando ar eu cyngor yn ofalus.

O ran gweithgarwch ar draws y Llywodraeth, fi yw'r Gweinidog sy'n arwain ar hyn, heb ystyried rheoliadau adeiladu neu ddiogelwch tân neu iechyd neu fel arall. Fi yw'r Gweinidog sy'n arwain ar y mater penodol hwn. Byddaf yn cael sgwrs gyda fy nhîm o ran y materion a godwyd gennych chi gydag un o'r byrddau iechyd. Pe gallech roi mwy o fanylion i mi am hynny, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.

Mae hyn yn datblygu’n gyflym iawn. Mae gwneud asesiad llawn ar gyfer sefydliadau o adeiladau sydd mewn perygl—gyda’r deunydd hwn arnynt—yn rhywbeth nad oeddem ni yn ei ddisgwyl. Felly mae'n cymryd peth amser, ond rwy'n gobeithio bod y cydlynnu’n dechrau gwella yn hynny o beth, a byddaf yn siŵr o roi gwybod i'r Aelod sut yn union mae hynny’n datblygu.

Ynglŷn â’r camau eraill sydd gennym ar waith, soniais yn gynharach am David Melding, a’r hyn y gallwn ni ei wneud os nad yw pethau'n digwydd ar lawr gwlad, bod gennym ni Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, y gellir ei ddefnyddio mewn cysylltiad â mannau cyffredin mewn blociau fflatiau ac ati. Mae gennym ni hefyd swyddogaeth archwiliadau diogelwch y gwasanaeth tân, unwaith eto, lle mae modd iddyn nhw roi hysbysiadau gwahardd ar y mannau hyn, sy'n gallu atal naill ai'r masnachu neu eu gallu i rentu eiddo. Gallwn roi'r gorau i hynny trwy Rhentu Doeth Cymru hefyd. Felly, fe allwn ni wneud sawl peth, ac rwy’n ystyried pa rymoedd sydd gen i hefyd o ran y maes hwn, ond byddaf yn rhoi mwy o fanylion i’r Aelodau am hynny.

Un pwynt olaf, os caf, Llywydd, ynglŷn â rheoliadau adeiladu. Mae gennym ni rymoedd i ddiwygio rheoliadau adeiladu yn barod ac mae gennym ni grŵp cynghori rheoliadau adeiladu. Ond, unwaith eto, ni fyddaf yn ceisio diwygio'r rheoliadau adeiladu, neu ni fydd y Gweinidog yn gwneud hynny, oni bai fod gennym dystiolaeth i awgrymu y dylen ni. Y sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd yw bod yr unedau sydd wedi eu gosod yn cydymffurfio â safonau rheoleiddio adeiladu. Nawr, os ydyn nhw’n anghywir neu os oes angen eu newid, yna byddwn yn cael asesiad llawn, unwaith eto, yn unol â Llywodraeth y DU. Nid yw'r paneli hyn yn lledaenu o Gymru a Lloegr yn unig. Cânt eu defnyddio ar adeiladau ar draws y byd, felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn sut rydym ni’n mynd i’r afael â hyn: nid adwaith mympwyol i newid rheoliadau adeiladu am ei fod yn teimlo'n iawn. Mae'n rhaid i ni seilio hyn ar dystiolaeth gan y panel arbenigol ynglŷn â’r hyn sy'n iawn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:10, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad a diolch am yr holl waith yr ydych chi’n ei wneud gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn darganfod a oes gennym ni broblem yng Nghymru ac, os oes gennym broblem, unioni hynny. Rwy’n cytuno ei bod hi’n hollol bwysig nad ydym ni’n gorymateb i hyn, ac rwy'n hyderus bod fy awdurdod lleol i yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i ddarganfod a oes gennym broblem, ac os felly, unioni'r sefyllfa.

Rwy'n falch o weld eich bod chi hefyd wedi gofyn i awdurdodau lleol nodi perchnogion ac asiantau rheoli blociau tŵr yn y sector preifat, gan fod gennyf lawer ohonyn nhw yng nghanol dinas Caerdydd. Hoffwn i graffu hyn ychydig yn fanylach. Rydych chi’n dweud yn eich datganiad eich bod yn disgwyl i berchennog wneud y peth iawn os yw’n darganfod bod gan adeilad preswyl aml-lawr gladin ACM, neu os oes amheuaeth o hynny, ac anfon samplau i’w profi. Ond beth os na wnawn nhw hynny? Pa rymoedd sydd gennych chi yn hynny o beth? Ac o ran dyletswyddau landlordiaid ac asiantau rheoli blociau preifat mewn cysylltiad ag arolygiadau rheolaidd o ardaloedd cyffredin fflatiau yn y sector preifat, pa fath o gofnod sydd yna o bwy sydd wedi cyflawni’r dyletswyddau hyn, ac ymhle? Sut mae trigolion yn cael gwybod pryd mewn gwirionedd y gwnaed archwiliad diogelwch tân yn y mannau cymunedol hyn? Sut gall y gwasanaeth tân—ein gwasanaeth tân ardderchog ni—obeithio targedu'r rhai nad ydyn nhw’n cydymffurfio os nad oes gennym ni gofnod cyflawn?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:12, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Cwestiynau defnyddiol iawn gan yr Aelod heddiw, ac rwy’n diolch iddi am ei sylwadau, yn enwedig ynghylch y gwasanaethau tân ac achub a'u gallu i weithredu ar y materion y mae hi wedi eu codi.

A gaf i yn gyntaf oll roi sylw i’r mater ynglŷn â phrofi a phrofi yn y sector preifat? Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r unigolion yn y lle cyntaf, ac yna rhoddir canllawiau iddyn nhw am yr hyn yr ydym ni’n disgwyl y bydd yn digwydd. Rwyf eto i ddod o hyd i asiant nad yw'n dymuno cydymffurfio â'r broses honno, ond mae'n ddyddiau cynnar, ac rwy’n disgwyl y gall fod un neu ddau a all fod eisiau gwthio’r ffiniau—os mai dyna maen nhw’n ceisio ei wneud. Ond mae yna rymoedd yn Neddf Adeiladu 1984. Felly, o dan Ddeddf Tai 2004, mewn ymateb i nodi perygl, mae gan yr awdurdod lleol amryw o ddewisiadau gorfodi. Mae cymryd camau adfer argyfwng dan adran 40 a gwneud gorchymyn gwahardd brys o dan adran 43 i wahardd y defnydd o'r eiddo i gyd yn gamau y mae modd i awdurdodau lleol eu gweithredu os ydyn nhw’n dymuno, yn ychwanegol at y gwasanaeth tân gyda’u hasesiadau risg ynglŷn â diogelwch tân a hysbysiadau gwahardd hefyd. Felly, rydym ni’n credu bod digon o rymoedd i fynd i’r afael â'r mater unwaith y byddwn wedi nodi diffyg cydymffurfio yn y system, os mai dyna fydd yn digwydd. Ond ni allaf weld unrhyw reswm pam na fyddai person yn dymuno ceisio sicrhau bod eu hadeilad yn ddiogel.

Mae cyfnodau rheolaidd ar gyfer profion archwilio diogelwch tân, a'r gwasanaeth tân sy’n cadw’r data ar hynny. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod a rhoi copi yn llyfrgell o’r broses fanwl o ran y gwiriadau a’r rheoliadau diogelwch tân ar gyfer adeiladau o'r math hwn fel bod yr Aelod yn hyderus gyda’r ymateb, a hefyd gall Aelodau eraill weld hynny.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:14, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cadeirydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiadau ar y pwnc hwn hyd yn hyn er mwyn ein diweddaru ynglŷn â’r camau sy'n cael eu cymryd. Rwy'n credu y bu angen gweithredu ar fyrder er mwyn ymchwilio i beryglon tân posibl a hefyd i leddfu ofnau pobl sy'n byw mewn blociau uchel. Fel y dywedasoch chi, mae tawelwch meddwl yn ffactor pwysig yma. Mae llawer yn cael ei wneud, mae’n amlwg. Rwy'n credu bod cysylltu yr hyn yr ydym ni’n ei wneud yma yng Nghymru â'r hyn y maen nhw’n ei wneud mewn mannau eraill yn y DU yn bwysig. Felly, byddai penodi Des Tidbury i'r grŵp arbenigol yn y DU yn gam da.

Rwyf hefyd wedi fy nghalonogi bod eich ymchwiliadau yn symud y tu hwnt i dai cymdeithasol, lle y dechreuon nhw, yn ddealladwy, i gwmpasu blociau preifat, a hefyd eich bod yn ymestyn eich cwmpas i adeiladau dibreswyl. Fe soniasoch chi am agweddau yn ymwneud â rheoliadau adeiladu. Gwn fod y mater wedi ei grybwyll. Rydw i wedi sylwi, yn y wasg genedlaethol, fod rhywfaint o gwestiynu wedi bod ar y rheoliadau adeiladu fel y maen nhw’n bodoli yn Lloegr. O bosib, gall yr un peth fod yn berthnasol yng Nghymru. Mae awgrymiadau y gallai newidiadau a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf wneud y prosesau hynny yn llai cadarn o ran asesu risgiau tân posib. Rwy'n gwybod bod hwn yn ymchwiliad parhaus gennych chi, felly nid wyf yn disgwyl ateb pendant yn awr, ond petai chi ond yn gallu cadw mewn cof yr agwedd honno ac ystyried hynny wrth i chi symud ymlaen. Diolch.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:16, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich sylwadau. Nid wyf yn ymwybodol bod cwestiwn ffurfiol yno, Llywydd, ond rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaeth yr Aelod, a byddwn yn ystyried hynny.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Yn olaf, Dawn Bowden.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, buom yn siarad y bore yma am y materion a godais gyda chi, ond a gaf i ddweud fy mod yn falch iawn, pan ymwelais â’r unig dŵr aml-lawr yn fy etholaeth i, sydd ym Merthyr Tudful, nad cladin o fath ACM sydd ar yr adeilad, ond math Rockwell, sy'n golygu ei fod yn wrthdan gyda gorffeniad o rendr drosto? Mae yno system chwistrellu ym mhob un o’r fflatiau hefyd.

Mae'r materion, y rhai a godais gyda chi—rwy’n hapus iawn gyda'ch ymateb iddyn nhw oherwydd roedd yn peri pryder arbennig, pan ddaethpwyd â hyn i fy sylw i, y gall cwmnïau fel BT a Sky ddod i floc o fflatiau heb i'r landlord wybod, heb eu caniatâd, ac y gallan nhw ddrilio drwy rwystrau tân i osod ffonau a dysglau lloeren, gan wneud y rhwystrau tân hynny yn llai effeithiol yn y broses, ac yna ychydig iawn o obaith, os o gwbl, sydd gan y landlord o gael y cwmnïau hynny i ddod yn ôl i’w hadfer. Felly, rwy'n falch iawn eich bod yn mynd i edrych ar hynny. O leiaf, mae'n debyg, dylai fod gorfodaeth ar y cwmnïau hynny i geisio caniatâd y landlord i fynd i mewn i'r adeilad, a chytuno â nhw ynglŷn â’r disgwyliadau o ran y gwaith ac o adfer y gwaith.

Ond y mater arall a ddaeth i’m sylw oedd bod y lesddeiliaid hynny, hynny yw, y bobl sydd, o dan y cynllun hawl i brynu, wedi prynu unedau mewn blociau tŵr ond nad ydyn nhw’n gaeth i’r un amodau â thenantiaid o ran rhoi gwybod i berchennog yr adeilad faint o bobl sy'n byw yn y llety hwnnw ac a ydyn nhw’n cadw offer fflamadwy yno, neu offer a allai fod yn beryglus fel tanciau ocsigen ac yn y blaen. Mae'n ofynnol i denantiaid wneud hynny, ond nid i lesddeiliaid, ac eto maen nhw yn y bloc ac felly’n creu yr un fath o berygl posib. Felly, yn ogystal ag edrych ar sut y gall y cwmnïau allanol hyn ddod i mewn a drilio i'r rhwystrau tân ac yn y blaen, a gaf i ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech chi hefyd ystyried a oes ffyrdd o orfodi lesddeiliaid i ddatgelu i berchnogion adeiladau unrhyw wybodaeth y gellid fod ei hangen arnyn nhw iddyn nhw allu asesu risg tân yn yr adeilad hwnnw?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:19, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y drafodaeth a gefais gyda hi y bore yma, a hefyd am y mater a gododd gyda mi y prynhawn yma. Mae'r mater ynghylch yr elfen trydydd parti o hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod gyda Lesley Griffiths o ran rheoliadau adeiladu a'r dulliau cydymffurfio a ddefnyddir ar gyfer cael mynediad i adeiladau lle mae risg, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn gofyn iddyn nhw edrych arno. Credaf i mi sôn yn gynharach fy mod yn credu y gall yr ymchwiliad cyhoeddus ddangos bod achosion o dân yn torri trwy’r rhwystrau yn fflatiau Tŵr Grenfell oherwydd cyfarpar wedi eu gosod gan drydydd parti neu ddatblygiadau diweddarach. Felly, mae'n rhywbeth sy’n peri pryder difrifol. Byddaf yn codi hynny gyda Lesley Griffiths.

O ran lesddeiliaid, mae rhai elfennau o reolaeth mewn cysylltiad â lesddeiliaid. Mae’n ddyletswydd ar denantiaid i roi gwybod i'r corff ynghylch yr hyn y bwriedir ei gadw yno, o ran deunyddiau peryglus. Ond mae’r mater hefyd o newid drysau ffrynt. Mae hyn yn rhywbeth mae lesddeiliaid newydd yn aml yn hoffi ei wneud yn yr adeilad—ond yn aml dydyn nhw ddim yn gosod drysau tân. Felly, mae problem lle mae modd i’r awdurdod lleol neu'r gwasanaeth tân hyrwyddo hysbysiadau gwahardd yno ar gyfer newid defnydd a mynd yn ôl i broses drws tân. Rwy’n credu bod rhai rhybuddion gwahardd yn weithredol nawr, ar hyn o bryd, o ran ceisio datrys y materion hynny. Ond byddaf yn cadw mewn cof y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi gyda mi y prynhawn yma ac yn siarad â Gweinidogion eraill i weld a allwn ni ddatrys rhai o'r pryderon sydd ganddi.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:20, 4 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.